Isod ceir darlun cyffredinol o’r newidiadau i’r Cynllun Cyfradd Safonol Amaethyddol sy’n dod i rym ar 1af Ionawr 2021 gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi:
Beth yw’r Cynllun Cyfradd Safonol Amaethyddol (AFRS)?
Mae’r AFRS yn opsiwn arall i gofrestriad TAW ar gyfer busnesau sy’n ymgymryd â gweithgareddau amaethyddol dynodedig. Ei fwriad yw cynnig opsiwn arall i osgoi baich TAW o fewn busnesau ffermio bach.
Os byddwch chi’n cofrestru fel ffermwr cyfradd safonol, does dim rhaid ichi roi cyfrif am TAW na chyflwyno ffurflenni blynyddol ac felly ni allwch adhawlio unrhyw dreth. Ond mi allwch chi godi tâl a chadw ychwanegiad cyfradd safonol (FRA) o 4% pan fyddwch chi’n gwerthu nwyddau a/neu wasanaethau i gwsmeriaid sydd wedi cofrestru at ddibenion TAW.
Newidiadau i’r Cynllun Cyfradd Safonol Amaethyddol
Mae meini prawf cymhwyso ar gyfer ymuno a gadael ar sail trosiant yn cael eu cyflwyno i’r AFRS o 1af Ionawr 2021.
Unwaith bod y newidiadau ar waith, gall busnesau ymuno â’r AFRS os yw eu trosiant blynyddol ar gyfer gweithgaredd ffermio yn is na £150,000, a pharhau ar y cynllun nes bod eu trosiant blynyddol ar gyfer gweithgaredd ffermio yn uwch na £230,000.
Pwrpas y newidiadau yw:
- Darparu rheolau clir a manwl fel bod ein haelodau’n deall y cynllun
- Cynnig cymorth pendant a phenodol ar gyfer busnesau ffermio bach
- Sicrhau cysondeb â chynlluniau symleiddio eraill CThEM
Camau Nesaf
Os ydych chi’n aelod o’r AFRS ar hyn o bryd, bydd angen ichi wneud yn siŵr eich bod yn parhau i fod yn gymwys ar gyfer y cynllun pan ddaw’r newidiadau i rym. Os nad ydych chi bellach yn gymwys oherwydd y newidiadau, bydd angen ichi hysbysu CThEM i gael eich datgofrestru o’r AFRS, a gall fod angen ichi gofrestru ar gyfer TAW.
Am fwy o wybodaeth ewch i’r canllawiau AFRS sydd ar gael ar Gov.uk
Cwestiynau Cyffredin
1) Beth oedd yr ymateb i’r ymgynghoriad ar y newidiadau hyn?
Cynhaliwyd ymgynghoriad anffurfiol, ac roedd yr ymateb yn fras o blaid y newidiadau. Codwyd cwestiwn am yr ychwanegiad cyfradd safonol (FRA) gwahanol yng Ngweriniaeth Iwerddon (tua 6%) ond does dim cynlluniau ar hyn o bryd i newid y gyfradd safonol.
2) Faint o ddefnyddwyr sydd wedi cofrestru ar gyfer y Cynllun Cyfradd Safonol Amaethyddol?
Amcangyfrifir bod rhwng 1700 – 2000 o ddefnyddwyr wedi cofrestru ar hyn o bryd.
3) A ydy’r newidiadau hyn yn gysylltiedig â phroses Pontio’r DU a chyhoeddiadau eraill ar y Cynllun Pontio Amaethyddol?
Na. Cyhoeddwyd y newidiadau i’r Cynllun Cyfradd Safonol Amaethyddol yng Nghyllideb 2020 ac nid ydynt yn gysylltiedig ag unrhyw benderfyniadau eraill am y polisi Amaethyddol.
4) Oes canllawiau clir ar y gweithgareddau dynodedig i gymhwyso ar gyfer y cynllun?
Oes. Mae canllawiau ar gael ar hyn o bryd ar gov.uk (VAT Notice 700/46) a byddant yn cael eu diweddaru maes o law i adlewyrchu’r newidiadau sy’n dod i rym at 1 Ionawr 2021. Does dim cynlluniau i ddiwygio’r gweithgareddau dynodedig ar hyn o bryd.
5) Sut fyddwch chi’n rhoi gwybod i bobl am y newidiadau hyn?
Rydym wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau ymgysylltu â rhanddeiliaid, gyda chyrff cynrychioladol ac adrannau eraill y Llywodraeth. Cyhoeddir datganiad i’r Wasg maes o law.
6) Ydy’r trosiant blynyddol yn cael eu bennu yn ôl trefn dreigl 12 mis?
Na, caiff ei bennu bob 12 mis yn dechrau ar y dyddiad y daw’r cofrestriad i rym, sef adeg ymuno â’r cynllun yn ffurfiol.