i) Cadeirydd newydd i Hybu Cig Cymru
Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths wedi cyhoeddi’n ddiweddar mai Catherine Smith fydd yn cymryd yr awenau oddi wrth Kevin Roberts fel Cadeirydd Hybu Cig Cymru, o 1af Ebrill 2021.
Mae Catherine, sydd â gradd mewn Rheoli Bwyd a Defnyddwyr, yn ymgyghorydd busnes bwyd sydd â thros 20 mlynedd o brofiad yn y sector cig coch, a hi fydd y fenyw gyntaf i ymgymryd â rôl Cadeirydd HCC.
ii) Pryderon yn codi wrth i Defra gyflogi swyddog newydd i ganolbwyntio ar Dir Comin
Yn ddiweddar, mae’r Sefydliad Tir Comin wedi mynegi pryderon i Bwyllgor Dethol yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ynghylch y perygl posib na fydd Cominwyr yn Lloegr yn gallu cael mynediad at y Cynllun Rheoli Tir Amgylcheddol (ELMS) newydd tra bod taliadau uniongyrchol yn parhau i gael eu dirwyn i ben.
Ers hynny mae Defra wedi penodi swyddog newydd, heb unrhyw wybodaeth flaenorol, i ganolbwyntio ar y polisi ar gyfer Tir Comin, ond mae’r Sefydliad Tir Comin yn honni bod gan Defra “lefel uchel o uchelgais i gyflwyno’r cynllun ELM newydd ar gyfer tir comin yn Lloegr, ond lefel isel o baratoad ar gyfer gwneud hynny”, ac felly mae wedi cynnig darparu hyfforddiant i staff Defra, o ystyried cymhlethdod Tir Comin.
iii) Talwyr lefi’n pleideisio yn erbyn AHDB yn y sector garddwriaethol
O’r 1,400 o dalwyr lefi garddwriaethol yn Lloegr sy’n talu am AHDB yn y sector garddwriaethol, pleidleisiodd 61%, mewn pleidlais a gynhaliwyd ar 15fed Chwefror, yn erbyn parhau’r lefi statudol.
Er bod y bleidlais yn cynnwys cwestiwn ie neu na syml ar gyfer yr hyn sy’n fater cymhleth mewn perthynas â gwerth y lefi, maint y fferm, a’r math o gnwd, mi fydd Gweinidogion Defra a’r gweinyddwyr datganoledig – nad ydynt yn gaeth i ganlyniadau’r bleidlais – yn mynd ati nawr i archwilio’r canlyniadau hyn yn fwy manwl cyn gwneud penderfyniad terfynol.