Mae bron i flwyddyn wedi mynd heibio ers i FUW gymryd y cam digynsail o gau’r holl swyddfeydd sirol.
Un ffocws arbennig, o ystyried yr adeg o’r flwyddyn, fu sicrhau bod yr FUW yn gallu dal ati i helpu aelodau i lenwi a chyflwyno’u ffurflenni SAF/IACS. Bob blwyddyn mae FUW yn cynorthwyo aelodau gyda hawliadau Cynllun y Taliad Sylfaenol (BPS) gwerth dros £60 miliwn, a miliynau ychwanegol ar ffurf hawliadau Glastir, gan ddarparu help amhrisiadwy yn aml i’r rhai sydd heb fynediad i’r gwasanaethau rhyngrwyd sydd eu hangen i lenwi’r ffurflenni.
Oherwydd y sefyllfa barhaus gyda Covid-19, bydd y miloedd lawer o aelodau sydd angen help FUW i lenwi eu ffurflenni SAF 2021 yn cael cynnig ‘apwyntiadau rhithwir’. Bydd yr wybodaeth sydd ar y ffurflenni’n cael ei chroeswirio yn ystod galwad ffôn, ac os na fydd gan yr aelodau fynediad at wasanaethau ar-lein, bydd staff FUW yn cyflwyno’r ffurflenni ar eu rhan.
Fodd bynnag, mae cymorth ‘rhithwir’ o’r fath yn cynyddu’r risg o gamgymeriadau, felly dylai aelodau gysylltu â’u swyddfa leol ar unwaith os bu unrhyw newidiadau sylweddol i’r fferm ers y llynedd; mae’r rhain yn cynnwys newid ffiniau, tir newydd, newid o ran partneriaid busnes, archwiliadau ers y llynedd ac unrhyw newidiadau o ran defnydd o’r tir. Dylai aelodau hefyd ddarllen eu negeseuon RPW ar-lein am unrhyw newidiadau mapio neu archwiliadau tir, oherwydd gall y rhain gael effaith fawr ar gwblhau’r SAF.
Trwy adael i’r Staff Sirol wybod, gallant baratoi mapiau a chasglu gwybodaeth yn barod ar gyfer eich apwyntiad SAF o fis Mawrth ymlaen.
Os oes gennych chi unrhyw bryderon, cysylltwch â’ch swyddfa sirol leol, a fydd yn gallu ateb eich cwestiynau.