Mae FUW, NFU Cymru a CFfI Cymru wedi anfon llythyr ar y cyd at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, yn mynegi pryderon ynghylch cyfeiriad polisi amaethyddol Cymru yn y dyfodol, yn dilyn cyhoeddi Papur Gwyn Amaethyddiaeth (Cymru).
Mae’r llythyr yn galw ar y Gweinidog i ail-ystyried beth ddylai polisi’r dyfodol ei gynnig i Gymru, o ystyried nad oes fawr ddim wedi newid dros y tair proses ymgynghori ers 2018, a bod yna ddiffyg uchelgais o hyd mewn perthynas â dyfodol ffermio yng Nghymru.
Mae’n datgan hefyd “nid yw’r trywydd a gynigir i’w weld yn adlewyrchu natur unigryw ffermio yng Nghymru, sy’n seiliedig ar ffermydd teuluol sy’n cyflenwi ar gyfer ein economi, tirwedd, iaith a diwylliant. Yn hytrach, ac yn destun y pryder mwyaf, ymddengys ein bod yn rhoi polisi ar waith sy’n seiliedig ar ddiffiniad cul iawn o nwyddau cyhoeddus, sef meddylfryd polisi tebyg iawn i’r un a welsom yn deillio o fannau eraill, yn hytrach na pholisi ‘Gwnaed yng Nghymru‘."
Mae’r diwydiant yn cydnabod ac yn croesawu’r angen am newid, yn y gred mai’r prif gyfle yn sgil Brexit oedd datblygu polisi amaethyddol yng Nghymru ar gyfer Cymru, oedd yn canolbwyntio ar ei phobl, a’r tir a ddefnyddir i ffermio a chynhyrchu bwyd.
Mae’r diwydiant yn rhannu’r gred uchelgeisiol y gall sector amaethyddol Cymru chwarae prif ran yn yr heriau mawr sy’n wynebu cymdeithas, ac yn arbennig y newid yn yr hinsawdd, gan gynhyrchu bwyd a biod o’r ansawdd uchaf i fwydo poblogaeth sy’n tyfu o hyd.
Mae ffermio yng Nghymru wedi cyrraedd croesffordd bwysig, a bydd y penderfyniadau a wneir gan lunwyr polisi dros y misoedd nesaf yn siapio ac yn effeithio ar y sector am genedlaethau i ddod.