Cynllun grant Allwedd Band Eang Cymru

Mae’r cynllun hwn gan Lywodraeth Cymru’n cynnig grantiau i ariannu, neu ariannu’n rhannol, y gost o osod cysylltiadau band eang newydd mewn cartrefi a busnesau yng Nghymru. Mae’r cynllun yn cynnig cyllid ar gyfer gosod cysylltiadau’n unig ac nid yw'n cynnwys costau rhentu misol. 

Rhaid i gysylltiadau newydd drwy'r cynllun hwn sicrhau newid sylweddol mewn cyflymder. Rhaid i'r cysylltiad newydd o leiaf ddyblu’r cyflymderau lawr lwytho cyfredol.

Mae’r cyllid y gallwch ei dderbyn yn dibynnu ar gyflymder y cysylltiad newydd:

  • £400 ar gyfer 10Mbps neu uwch
  • £800 ar gyfer 30Mbps neu uwch

Cyn gwneud cais am arian, dylai ymgeiswyr ddefnyddio teclyn gwirio cyfeiriadau Openreach i weld a oes ganddynt eisoes fynediad at fand eang cyflym ar: https://www.openreach.com/fibre-broadband/ultrafast-full-fibre-broadband#fibrechecker

Mi fydd angen i ymgeiswyr hefyd ystyried cyflymder y cysylltiad sydd ei angen, a dewis darparwr gwasanaeth rhyngrwyd all gwrdd â’r anghenion a nodwyd, a chael dyfynbris ysgrifenedig ganddynt. 

I wneud cais, rhaid i chi lenwi ffurflen gais Allwedd Band Eang Cymru a'i dychwelyd gyda dyfynbris gan eich darparwr gwasanaeth rhyngrwyd dewisol i This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it..