Mae’r cyhoeddiad diweddaraf ar Reoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru), sy’n nodi’r bwriad i ohirio gweithredu’r terfyn nitrogen blynyddol fferm gyfan o 170kg fesul hectar, ac ymgynghori ar gynllun trwyddedu i gynyddu’r terfyn hwnnw, yn cael ei groesawu fel cyfle i ddylanwadu ar newid.
Roedd y datganiad ysgrifenedig a wnaed gan Lesley Griffiths, y Gweinidog dros Faterion Gwledig, Gogledd Cymru a’r Trefnydd ar Ddydd Mercher 5ed Hydref 2022, a gyhoeddwyd o dan y Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru, yn cydnabod bod rhai busnesau fferm, o ganlyniad i ansicrwydd, wedi gohirio gwneud penderfyniadau buddsoddi a gwneud y paratoadau angenrheidiol.
I gydnabod yr amgylchiadau hyn, nododd y Gweinidog ei bwriad i ymgynghori ar gynllun trwyddedu yr hydref hwn i fod yn weithredol tan 2025, gan ddarparu estyniad byr i weithredu’r terfyn nitrogen fferm gyfan o 170kg fesul hectar tan fis Ebrill 2023.
Bydd y cynllun yn caniatáu i unrhyw fusnes fferm i wneud cais am drwydded ar gyfer terfyn nitrogen blynyddol uwch o 250kg fesul hectar, yn amodol ar anghenion cnydau ac ystyriaethau cyfreithiol eraill, yn unol â rhanddirymiadau tebyg mewn ardaloedd Parthau Perygl Nitradau dynodedig eraill yn y DU a’r UE.
Mae hwn yn gyfle da i UAC ddylanwadu ar newid, ac mae’n dangos bod lobïo parhaus wedi cael rhai effeithiau cadarnhaol ar yr hyn a oedd yn rheoliad anymarferol.
Byddai’r gyfundrefn drwyddedu arfaethedig yn gweithredu fel rhwyd ddiogelwch sylweddol i nifer o ffermwyr yng Nghymru yn y tymor byr sydd eisoes uwchlaw’r terfyn 170kg. Mae hyn yn arbennig o bwysig lle nad yw lleihau nifer y stoc neu brynu neu rentu tir ychwanegol yn opsiynau ymarferol, a byddai cydymffurfio â’r terfyn 170kg yn torri contractau neu gytundebau tenantiaeth, neu’n peryglu’r gallu i ad-dalu benthyciadau.
Fodd bynnag, un rheoliad yn unig yw hwn allan o bedwar deg chwech a nodir yn y darn hwn o ddeddfwriaeth ac felly mae’n rhaid i UAC ystyried goblygiadau hirdymor y rheoliadau hyn yn eu cyfanrwydd i’w haelodau.
Hefyd, dywedodd y Gweinidog y bydd Asesiad Effaith Rheoleiddiol penodol arall yn cael ei gynnal a fydd yn ystyried effeithiau economaidd ac amgylcheddol y terfyn blynyddol o 170kg o nitrogen yr hectar fesul daliad, a bydd Llywodraeth Cymru’n adolygu goblygiadau’r asesiad hwn o ran gweithredu’r rheoliadau yn y dyfodol.
Mae’n bwysig bod effeithiau’r terfyn 170kg yr hectar yn destun craffu, a’r gobaith yw y bydd yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn rhoi mwy o dystiolaeth i Lywodraeth Cymru sy’n dangos yr angen i gyflwyno’r gyfundrefn drwyddedu fel rhan o’r rheoliadau yn barhaol.
Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn darparu £20 miliwn o gyllid ychwanegol i gynorthwyo i gydymffurfio â’r rheoliadau, a bydd yn mynd ati’n fwy diwyd i annog atebion technolegol eraill posib gan ddefnyddio mecanwaith Rheoliad 45.
Mae’r cyllid ychwanegol o £20 miliwn i gynorthwyo i gydymffurfio yn swm pitw iawn o ystyried bod y costau seilwaith posibl i ffermwyr Cymru yn £450 miliwn a mwy erbyn hyn, yn sgil y cyfraddau chwyddiant presennol o 25% ar ddeunyddiau adeiladu.
Fodd bynnag, o ystyried bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddefnyddio mecanwaith Rheoliad 45 i ystyried atebion technolegol eraill posib i rai rheoliadau, ac y bydd yn ystyried canlyniad yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol penodol, ac yn gorfod adolygu effeithiolrwydd y rheoliadau yn Ebrill 2025, mae UAC o’r farn bendant y dylid gohirio’r rheoliadau sydd i’w cyflwyno yn Awst 2024 hefyd.
Er y bydd y cyhoeddiad hwn yn rhoi ychydig mwy o amser i ffermwyr Cymru dros y ddwy flynedd nesaf, mae’n warthus disgwyl i ffermwyr Cymru adeiladu storfeydd slyri newydd erbyn Awst 2024 gyda chymorth y cyllid ychwanegol, dim ond i Lywodraeth Cymru ystyried a gweithredu technolegau eraill yn 2025, a allai wedyn negyddu’r angen am gyfnodau caeedig a gosod capasiti storio slyri yn y dyfodol.
Roedd y mesurau amgen i’r rheoliadau a gyflwynwyd gan UAC yn ddiweddar yn annog Llywodraeth Cymru i ystyried gohirio’r rheoliadau er mwyn lleddfu’r pwysau ar ffermwyr; i ystyried ffactorau eraill megis y goblygiadau ariannol i fusnesau ffermio wrth adolygu’r rheoliadau, a defnyddio technolegau i ganiatáu symud i ffwrdd oddi wrth ofynion storio penodedig a chyfnodau caeedig penodol, ochr yn ochr â nifer o gynigion eraill.
Mae’n dda gweld fod Llywodraeth Lafur Cymru a Phlaid Cymru, fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio, wedi cytuno i oedi a rhoi gwelliannau i’r rheoliadau ar waith, yn dilyn ymgynghoriad yr hydref hwn. Fodd bynnag, er mwyn osgoi mwy fyth o ansicrwydd i aelodau UAC, dylid hefyd gohirio trydydd cam y rheoliadau er mwyn cael dealltwriaeth gliriach o’r hyn y bydd angen i ffermwyr ei wneud yn y dyfodol, cyn gwario degau o filoedd o bunnoedd ar seilwaith newydd.