Crafiadau croen am ddim ar gyfer y clafr

Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru’n cynnig crafiadau croen am ddim ar gyfer y clafr trwy’r flwyddyn.

Mae’r prawf diagnostig di-dâl ar gyfer defaid sy’n arddangos arwyddion clinigol yn unig.

Bydd y samplau o grafiadau croen yn cael eu derbyn yn y ffordd arferol drwy filfeddyg, a dylid eu postio’n uniongyrchol i Ganolfan Ymchwil Milfeddygol yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) yng Nghaerfyrddin, lle byddant yn cynnal profion arnynt.  Does dim angen llenwi holiadur epidemioleg bellach i fod yn gymwys ar gyfer profion am ddim.

Gellir cyflwyno samplau un ai - gyda Ffurflen Anifeiliaid Cnoi Cil Bach – neu drwy borth ar-lein ADTS https://www.gov.uk/animal-disease-testing (gellir postio am ddim gydag ADTS). Rhaid anfon ffurflen gyflwyno/cyflwyniad ADTS wedi’i llenwi’n llawn gyda’r samplau, i fod yn gymwys ar gyfer profion am ddim. 

Mi fydd angen ichi gynnwys hanes clinigol llawn ac unrhyw hanes o driniaeth berthnasol, a nodi ‘Profion y Clafr Cymru’ ar y ffurflen.  Dylid anfon y samplau i: 

 

APHA – Canolfan Ymchwil Milfeddygol Caerfyrddin,

Heol Ffynnon Job

Johnstown 

Caerfyrddin

Sir Gaerfyrddin

SA31 3EZ

 

Ar gyfer ymholiadau neu am fwy o wybodaeth cysylltwch â Chanolfan Ymchwil Milfeddygol Caerfyrddin (APHA) ar 0300 060 0016 neu e-bostiwch This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it.