Mae prosiect ymchwil ar Glefyd Johne sy’n cael ei gynnal gan Brifysgol Cranfield, ar y cyd ag Interherd+, My Healthy Herd a’r BBSRC (Y Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol) yn chwilio am gyfranogwyr. Nod y prosiect yw ymchwilio i’r rhwystrau rhag rhoi mesurau rheoli Clefyd Johne ar waith ar ffermydd.
Maent am siarad â milfeddygon a ffermwyr am eu profiad o reoli Clefyd Johne. Maent wedi datblygu arolwg byr i gasglu barn gychwynnol ar reoli Clefyd Johne ac i ofyn i filfeddygon a ffermwyr a fyddent yn fodlon cymryd rhan mewn cyfweliad ymchwil byr.
I fynegi’ch diddordeb mewn cymryd rhan yn yr arolwg llenwch yr holiadur byr yma