Daeth y cynllun sgrinio BVD a chanfod gwartheg sydd wedi’u heintio’n gyson, a gynigiwyd am ddim fel rhan o’r Rhaglen Gwaredu BVD gorfodol, i ben ar 31ain Rhagfyr 2022. Cymerodd dros 9300 (85%) o ffermydd gwartheg yng Nghymru ran yn y rhaglen 5 mlynedd hon.
O 1af Ionawr 2023, bydd yn rhaid i bob ffermwr dalu i’w filfeddyg am unrhyw brofion BVD a gynhelir. Bydd y costau’n dibynnu ar y filfeddygfa unigol. Mae UAC yn argymell bod aelodau’n dal ati i sgrinio’u buchesi a, lle bo angen, yn canfod gwartheg sydd wedi’u heintio’n gyson, ac yn cael gwared ag unrhyw anifeiliaid o’r fath a ganfyddir er mwyn dal ati gydag unrhyw welliannau a wnaed eisoes i daclo’r clefyd sylweddol a chostus hwn.
Gall milfeddygon barhau i ddefnyddio’r ffurflen Gwaredu BVD pan fydd ceidwaid gwartheg sydd â buchesi gyda chanlyniadau gwrthgyrff negyddol am dderbyn eu tystysgrif Gwaredu BVD.
Bydd y tîm Gwaredu BVD yn dal i fod ar gael i gynorthwyo ffermwyr gydag ymholiadau BVD tan o leiaf 31ain Mawrth 2023.
Mae UAC yn dal i aros am benderfyniad ynghylch rhoi deddfwriaeth BVD ar waith yng Nghymru. Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Grynodeb o’r Ymatebion i’r ymgynghoriad ar y Cynllun Gwaredu Dolur Rhydd Feirysol y Gwartheg (BVD) a gyhoeddwyd yn haf 2022. Mae Ymateb Llywodraeth Cymru i nifer o themâu allweddol sy’n codi o’r ymatebion i’r ymgynghoriad hefyd wedi’i gyhoeddi. Mae UAC yn parhau i fod o blaid rhaglen gwaredu BVD orfodol yng Nghymru, a byddwn yn parhau i roi gwybod am unrhyw gynnydd o ran deddfwriaeth wrth i’r mater hwn ddatblygu.