Mae’r Taflenni Ffeithiau a Safonau Dilysadwy Trawsgydymffurfio diweddaraf ar gyfer 2023 ar gael erbyn hyn ar wefan Llywodraeth Cymru.
Mae’r prif newidiadau’n ymwneud â:
- SMR 1 – Diogelu Dŵr – Mae’r Daflen Ffeithiau a Safonau Dilysadwy wedi’u diweddaru i adlewyrchu’r gofynion sy’n gymwys ar gyfer pob tir o 1af Ionawr 2023 dan Reoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021. Mae’r newidiadau’n cynnwys:
- y gofyniad i gynhyrchu a diweddaru mapiau risg
- cynlluniau rheoli maethynnau
- storio tail buarth.
ynghyd â mân newidiadau i:
- SMR 3 – Gwarchod Ffawna a Fflora – Taflen Ffeithiau wedi’i diweddaru i gynnwys dolenni i ddeddfwriaeth berthnasol
- SMR 4 – Cyfraith Bwyd a Phorthiant – Mân newidiadau i’r Daflen Ffeithiau a Safonau Dilysadwy yn egluro geiriad y gofynion
- SMR 10 – Cyfyngiadau ar Ddefnyddio Cynhyrchion Amddiffyn Planhigion (PPP) – Egluro’r diffiniad o PPP. Adran Arfer Da wedi’i diweddaru i gynnwys gofyniad cyfreithiol bod defnyddwyr PPP proffesiynol yn cofrestru gyda’r awdurdod cymwys (DEFRA)
- SMR 13 – Safonau Lles Anifeiliaid Fferm – Dolen i Godau Ymarfer wedi’i chynnwys dan yr adran Gwirio Caeau ar y Daflen Ffeithiau
- GAEC 7 – Nodweddion y Dirwedd – Atgyfeiriad at ddeddfwriaeth berthnasol wedi’i ddiweddaru. Atgoffa ffermwyr dan Arfer Da i wirio lleoliad a maint Henebion Cofrestredig ar dir, drwy Cof Cymru neu drwy gysylltu â CADW.
Am fwy o wybodaeth: https://www.llyw.cymru/trawsgydymffurfio-2023