Cynllun | Crynodeb | Ffenestr yn Cau |
Contractau Glastir |
Bydd contractau Glastir Uwch y mae eu cyfnod gwreiddiol yn dod i ben ar 31 Rhagfyr 2020 yn cael cynnig adnewyddu eu contract yr Hydref hwn, i ddechrau ar 1 Ionawr 2021. |
|
Grantiau Bach Glastir: Dŵr |
Mae Grantiau Bach Glastir: Dŵr yn rhaglen o waith cyfalaf sydd ar gael i ffermwyr i gwblhau prosiectau i wella ansawdd dŵr a lleihau llifogydd. Mae gwybodaeth bellach ar gael yma. |
27 Gorffennaf – 4 Medi 2020 |
Grant Busnes i Ffermydd – Ffenestr 7 |
Mi fydd angen cyflwyno hawliadau, ynghyd ag anfonebau cysylltiedig a llythyr cyfrifydd – mewn perthynas â chontractau sy’n dechrau 29 Mai – erbyn 25 Medi 2020 drwy eich cyfrif RPW Ar-lein. |
25 Medi 2020 |
Grantiau Bach Glastir: Tirwedd a Pheillwyr |
Yn sgil pandemig Covid, mae RPW wedi cadarnhau bod y dyddiad cau ar gyfer gwaith cyfalaf Grantiau Bach Glastir: Tirwedd a Pheillwyr wedi’i ymestyn i 30 Medi 2020, er mwyn gallu cwblhau gwaith ym Medi ar ôl y cyfnod cau ar gyfer torri gwrychoedd/perthi. |
30 Medi 2020 |
Ffenestr ymgeisio am gyllid Cyswllt Ffermio |
Bydd y ffenestr ymgeisio am gyllid nesaf ar gyfer hyfforddiant yn agor ar 7 Medi. Dylai’r rhai sy’n cofrestru am y tro cyntaf yn ystod y ffenestr hon, i wneud cais am hyfforddiant wedi’i ariannu, neu i ddiweddaru eu cyfrif, gysylltu â Chyswllt Ffermio cyn 5pm ar 26 Hydref. Er gwaetha’r cyfyngiadau a’r ansicrwydd ynghylch pryd y bydd hyfforddiant wyneb yn wyneb yn ail-ddechrau, mae Swyddogion Datblygu Cyswllt Ffermio wedi parhau i weithio, gan gynorthwyo’r rhai sydd am wneud cais. |
7 Medi – 30 Hydref 2020 |