UE yn gohirio rheoliadau datgoedwigo newydd ar fewnforion
Ar Hydref 3, dywedodd y Comisiwn Ewropeaidd y byddai’n oedi am flwyddyn cyn rhoi Rheoliad Datgoedwigo’r Undeb Ewropeaidd (EUDR) ar waith, tan 30 Rhagfyr 2025, er mwyn iddo gael ei weithredu’n ddidrafferth o’r cychwyn cyntaf.
Y bwriad oedd rhoi Rheoliad Datgoedwigo’r Undeb Ewropeaidd (EUDR) ar waith ar ddiwedd y flwyddyn, sy’n gofyn bod nwyddau amaethyddol amrywiol sy’n dod i mewn i’r bloc o 27 o wledydd yn dod gyda phrawf nad ydynt yn gynnyrch tir a gliriwyd o goed dros y pedair blynedd diwethaf.
Mae’r Undeb Ewropeaidd hefyd wedi ymateb i alwadau am lefelau gwahanol o gydymffurfio, drwy gyhoeddi methodoleg ar gyfer categoreiddio gwledydd fel naill ai risg isel, canolig neu uchel.
Brechlyn Tafod Glas are gael i ffermwyr Lloegr
Mae trwydded gyffredinol ar gael bellach ar gyfer y brechlyn tafod glas seroteip 3 (BTV-3) ar draws Lloegr gyfan. Gall pob ceidwad da byw yn Lloegr ddefnyddio unrhyw un o’r brechlynnau BTV-3 a ganiateir heb wneud cais am drwydded benodol.
Nid yw Cymru, na chwaith yr Alban a Gogledd Iwerddon, wedi trwyddedu’r defnydd o frechlynnau BTV-3 eto, ond maent wrthi’n arolygu ei ddefnydd.
Mae’r brechlynnau BTV-3 yn lleihau yn hytrach nag atal y feirws BTV yn y gwaed. Am y rheswm hwn, mae’r holl reoliadau o ran symud anifeiliaid a’r cyfyngiadau masnachu yn berthnasol o hyd ar gyfer anifeiliaid sydd wedi’u brechu.
Pris cig eidion y DU yn uwch nag erioed o’r blaen
Mae pris pwysau marw eidion yng Nghymru a Lloegr wedi codi uwchlaw £5 y cilogram am y tro cyntaf erioed. Pasiwyd y trothwy £5 y cilogram ym mis Medi, gyda’r prisiau’n dal i godi ym mis Hydref. Erbyn hyn mae’r pris tua 50 ceiniog y cilogram yn uwch nag yr oedd flwyddyn yn gynharach.
Mae Hybu Cig Cymru yn awgrymu bod y prisiau uwch o ganlyniad i gyflenwad llai, ynghyd â galw domestig cryf.
Mae allforion cig eidion yn perfformio’n dda, gyda data a ryddhawyd yn ddiweddar gan CThEF ar gyfer hanner cyntaf 2024 yn datgelu cynnydd o 11 y cant yn y meintiau o gig eidion ffres ac wedi’i rewi a allforiwyd o’r DU.