Mae Canolfan Milfeddygaeth Cymru wedi ffurfio partneriaeth â’r Gymdeithas Ddefaid Genedlaethol (NSA) i helpu ffermwyr defaid i ganfod a rheoli clefydau mynydd rhew. Defnyddir y term ‘mynydd rhew’ am ei bod hi’n debygol bod y rhan fwyaf o’r stoc sydd wedi’i heintio ddim yn dangos unrhyw arwyddion, a bod y defaid hynny sydd ag arwyddion neu symptomau gweladwy yn cynrychioli brig y broblem yn unig.
Mae clefydau mynydd rhew yn anodd eu rheoli. Mae’r arwyddion clinigol a’r symptomau yn aml yn rhai ysgafn ac annelwig ar y dechrau. Efallai na fydd yr anifail yn ymddangos yn sâl nes bod y clefyd yn ddifrifol ac wedi cael cyfle i ledaenu trwy’r ddiadell gyfan. Mae’r clefydau hyn yn cael eu pasio o un ddafad i’r llall ac mae prynu defaid i mewn bob amser yn risg.
Am y Prawf Enferplex:
Mae cyllid gan NSA Cymru wedi caniatáu i Ganolfan Milfeddygaeth Cymru sefydlu’r platfform profion Enferplex. Mae Enferplex yn canfod gwrthgyrff yn y gwaed i bennu a yw anifail yn cario clefyd. Argymhellir sgrinio 30 o ddefaid. Gall Enferplex asesu nifer o glefydau gwahanol ar yr un pryd.
Mae’r clefydau’n cynnwys Maedi Visna (MV), Lymffadenitis Crawnllyd (CLA) a chlefyd Johne (MAP). Mae gan MV a chlefyd Johne gyfnodau magu hir, a gall fod yn flynyddoedd lawer cyn bod defaid yn dangos unrhyw arwyddion o’r clefyd.
Mae cyfran o’r cyllid a dderbyniwyd gan NSA Cymru wedi caniatáu i Ganolfan Meddygaeth Cymru gynnig gostyngiad o 10% ar y tranche cyntaf o aelodau NSA sydd am ddefnyddio’r prawf. Mae Enferplex yn brawf sgrinio diadell ac mae hyn wedi’i adlewyrchu yn y strwythur prisio.
Mae prisiau bloc cyfradd safonol fel a ganlyn:
Y pris cyfradd safonol am hyd at 15 sampl yw £285
Y pris cyfradd safonol am 16-30 sampl yw £375
£1125 ar gyfer pecyn llawn o 90 sampl
Gall y prawf gael ei ariannu drwy Wasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio. Neu, os bydd aelod o UAC hefyd yn aelod o’r NSA, bydd yn cael gostyngiad o 10%.
Am fwy o wybodaeth, neu i archebu prawf, cysylltwch â Chanolfan Milfeddygaeth Cymru gan ddefnyddio’r manylion isod:
Canolfan Milfeddygaeth Cymru
Y Buarth, Aberystwyth,
Ceredigion, SY23 1ND
01970 612374