Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi croesawu cyhoeddiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies, bod aelodau Bwrdd y Rhaglen Dileu TB Gwartheg bellach wedi’u penodi.
Mae’r newyddion yn cwblhau’r strwythur llywodraethu newydd fel y’i hamlinellir yng Nghynllun Cyflawni Rhaglen Dileu TB Gwartheg 2023-2028, yn dilyn ffurfio’r Grŵp Cynghori Technegol ar TB Gwartheg yn gynharach eleni.
Mae UAC yn croesawu’r cyfle i gael sedd wrth y bwrdd, ochr yn ochr â thîm sydd â chyfoeth o wybodaeth a phrofiad ymarferol yn y maes hwn, i daclo’r llu o broblemau sy’n wynebu ffermydd teuluol yng Nghymru o ran dileu TB Gwartheg.
Cyhoeddwyd bod Bwrdd y Rhaglen wedi’i sefydlu yn gynharach eleni yn Sioe Amaethyddol Môn, gydag Ysgrifennydd y Cabinet yn cadarnhau aelodau’r Bwrdd wrth annerch pedwaredd gynhadledd flynyddol AberTB, a gynhaliwyd ar 18 Medi ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Fel Undeb, mae UAC yn awyddus i chwarae ei rhan ar Fwrdd y Rhaglen a gweithio’n agos â’r Grŵp Cynghori Technegol i adolygu materion pwysig sy’n berthnasol ar gyfer dileu TB Gwartheg.
Mae dileu TB Gwartheg yn bwnc eithriadol o gymhleth ac emosiynol, gyda rhwystredigaeth ymhlith ffermwyr yn sgil polisïau aneffeithiol yn tanio protestiadau’r sector amaeth yn ystod gwanwyn 2024. Un o dasgau cyntaf Bwrdd y Rhaglen fydd ystyried dadansoddiad o adolygiad targed carreg filltir chwe blynedd TB Gwartheg, a pholisïau’n ymwneud â rheoli canlyniadau profion Adweithyddion Amhendant.
Mae ceidwaid gwartheg yn parhau i gael eu llethu gan y clefyd parhaus hwn, heb unrhyw gynnydd tuag at gyrraedd nod Llywodraeth Cymru o ddileu TB Gwartheg erbyn 2041, serch yr aberthau enfawr a ofynnir o fusnesau ffermio.
Mae dadansoddiad data UAC o ystadegau TB Gwartheg Prydain yn tystio’n bendant mai ychydig iawn o newid a fu yn y ganran o fuchesi yng Nghymru sydd heb ‘Statws Heb TB Swyddogol’. Dros y chwe blynedd diwethaf, bu gostyngiad pitw o 0.09% yn y nifer o fuchesi sydd heb ‘Statws Heb TB Swyddogol’ yng Nghymru, sy’n gosod trywydd digalon o ran dileu TB.
Fel diwydiant, ni all y sefyllfa bresennol barhau. Rhaid manteisio ar y cyfle hwn i weithio ar y cyd fel diwydiant i ddylanwadu ar, a sicrhau newid, nid yn unig ar gyfer iechyd a lles ein gwartheg a’n ffermwyr heddiw, ond hefyd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.