Agorodd cadeirydd pwyllgor llaeth UAC, Brian Walters, gatiau ei fferm noswyl Sioe Laeth Cymru 2024, i dynnu sylw at bwysigrwydd ffermydd llaeth teuluol yng Nghymru.
Yn ffermio 500 acer yng Nghaerfyrddin gyda’i wraig Ann a’u dau fab, Aled a Seimon, mae’r teulu’n rhedeg buches laeth o 220 o fuchod ynghyd â 200 o stoc ifanc ar system lloia mewn bloc yn yr hydref, gyda’r pwyslais ar gynhyrchu llaeth o ansawdd da o borfa.
Gan weithio fel tîm, mae’r teulu’n cyflogi un aelod staff llawn amser ac yn gwneud y rhan fwyaf o’r gwaith gyda pheiriannau eu hunain ar y fferm. Mae hyn yn cadw’r costau i lawr ac yn rhoi hyblygrwydd iddyn nhw reoli tasgau fel cynaeafu, aredig a gwasgaru slyri pan mae’n eu siwtio nhw, yn hytrach na gorfod cydbwyso argaeledd contractwyr a’r tywydd.
Dywed Brian Walters eu bod, fel teulu, wedi llwyddo i gael y cydbwysedd iawn. Mae nifer o heriau’n wynebu ffermydd teuluol fel eu fferm nhw, ac mae arbedion maint yn golygu ei bod hi’n mynd yn fwy a mwy anodd i fentrau llai, yn ariannol ac yn ymarferol, yn enwedig pan fydd dod o hyd i’r ‘meintiau elw’ iawn yn bwysicach nag erioed i sicrhau sefydlogrwydd ariannol.
Am genedlaethau, mae ffermwyr wedi diogelu’r ffermydd llaeth hyn ar draws Cymru ac wedi pasio ffermydd teuluol traddodiadol i lawr o un genhedlaeth i’r llall. Mae hanes y cynnyrch hynod gyfarwydd hwn i’w weld yn glir, gyda channoedd o standiau llaeth yn gwarchod pen lonydd a mynedfeydd ffermydd ledled cefn gwlad.
Yn un sy’n frwdfrydig dros drosglwyddo sgiliau i’r genhedlaeth nesaf, mae Brian a’i deulu wedi cynnig lleoliadau gwaith i bron 20 o fyfyrwyr ifanc Coleg Amaethyddol Gelli Aur.
Mae sicrhau bod y genhedlaeth nesaf yn cael y cyfle gorau posib i weithio o fewn y sector llaeth gwych hwn yn hanfodol bwysig iddyn nhw. Mae’n fwy na busnes fferm, mae’n ffordd o fyw.
Dros y blynyddoedd mae’r diwydiant wedi mynd ati i ddatblygu a hyrwyddo arferion ffermio i wella’r fuches, i gynhyrchu’r mwyaf posib o laeth, ac i wella effeithlonrwydd a lles yr anifeiliaid sy’n ennyn cymaint o barch.
Mae arolwg y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (AHDB) i nifer y cynhyrchwyr yn Ebrill 2024 yn nodi bod yna 6% yn llai o gynhyrchwyr llaeth, o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Eto, roedd lefelau’r llaeth a gynhyrchwyd fesul fferm yn parhau i godi. Mae’r diwydiant llaeth yn datblygu i fod yn un gyda llai o gynhyrchwyr, ond rhai mwy o faint.
Fel Undeb, mae UAC yn parhau i atgoffa Llywodraeth Cymru ac eraill bod ffermydd llaeth teuluol traddodiadol angen cymorth i ddiogelu dyfodol eu busnesau a’u seilwaith, gydag atebion fforddiadwy ac arloesol, er mwyn goresgyn y llu o heriau sy’n wynebu’r diwydiant, a’i wneud yn yrfa ddeniadol ar gyfer y genhedlaeth nesaf.
Y ffermydd teuluol hyn yw asgwrn cefn, nid yn unig busnesau bach eraill, ond dyma’r glud sy’n dal y gymuned, ysgolion, capeli, neuaddau pentref, siopau a thafarndai lleol at ei gilydd. Mae’r ffermydd hyn hefyd yn fannau lle mae sgiliau traddodiadol amaethu yn cael eu pasio ‘mlaen, a lle mae’r Gymraeg, diwylliant, a sgiliau gwledig yn cael eu diogelu.
Un cyflawniad mawr y chwaraeodd UAC rôl hanfodol yn lobïo’n llwyddiannus amdano dros y blynyddoedd diwethaf yw’r ddeddfwriaeth newydd yn diogelu cynhyrchwyr llaeth.
Cyflwynwyd Rheoliadau Ymrwymiadau Masnachu Teg (Llaeth) 2024 ym mis Gorffennaf eleni, gyda chyfnod pontio o 12 mis i roi cyfle i gontractau llaeth presennol gydymffurfio â’r rheolau newydd. Mae hyn yn bendant yn gam positif ymlaen ar gyfer y sector, a fydd yn helpu i ddileu cytundebau contract annheg.
Mae Sioe Laeth Cymru, a gynhaliwyd ar Faes Sioe’r Siroedd Unedig yn Nantyci, Caerfyrddin Ddydd Mawrth 22 Hydref yn gyfle i’r sector ddod â ffermwyr, proseswyr, mentrau cydweithredol, busnesau, arweinwyr sector, undebau, a’r Llywodraeth at ei gilydd i drafod cyflwr y diwydiant llaeth, i edrych yn ôl ar y flwyddyn, ac i gynllunio ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.