Wrth i’r cyfnod caeedig ar gyfer gwasgaru slyri ar y rhan fwyaf o ffermydd Cymru ddod i ben (15 Hydref), mae Huw Irranca-Davies, y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Faterion Gwledig, wedi cyhoeddi cynlluniau i wneud diwygiadau tymor byr i’r Safonau Dilysadwy Trawsgydymffurfio sy’n ymwneud â rheoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol (NVZ).
Dros y misoedd diwethaf, mae UAC wedi gwneud hi’n gwbl glir i Ysgrifennydd y Cabinet bod heriau amlwg ar y gorwel i ffermwyr Cymru sy’n methu â chydymffurfio â’r rheoliadau hyn oherwydd materion sydd tu hwnt i’w rheolaeth a bod nifer fawr yn cael eu hunain yn y sefyllfa amhosib hon. Ar y pryd, gofynnodd UAC am ddiweddariad brys ar y mater a bod eithriadau’n cael eu hamlinellu'n glir yn y dogfennau Trawsgydymffurfio.
Mae UAC felly’n croesawu’r cyhoeddiad gan Ysgrifennydd y Cabinet gan ei fod yn cynnig achubiaeth i tua 800 o fusnesau amaethyddol sydd wedi gwneud cais am gymorth grant seilwaith, a’r llu o rai eraill sy’n parhau i wynebu heriau eraill, megis yr oedi gyda cheisiadau cynllunio ac argaeledd contractwyr adeiladu.
Dywed y datganiad: ‘Os oes unrhyw ffermwyr yn pryderu na fydd ganddynt y capasiti angenrheidiol i storio eu slyri yn ddiogel yn ystod y cyfnod caeedig, a’u bod nhw wedi cymryd yr holl gamau sydd ar gael i atal yr angen i wasgaru pan fo'n amhriodol gwneud hynny, gan gynnwys yn ystod y cyfnodau caeedig, dylent gysylltu â Cyfoeth Naturiol Cymru i nodi camau lliniaru priodol i leihau'r risg o lygredd…’
Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi Safonau Dilysadwy Trawsgydymffurfio diwygiedig erbyn diwedd y mis. Bydd hyn yn cynnwys cosbau mwy cymesur lle gellir gwneud asesiadau llawn o gofnodion a lle nad yw diffyg cydymffurfio technegol yn peri risg llygredd. Caiff cosbau hefyd eu lleihau i’r rhai sydd wedi cymryd camau rhesymol i fodloni’r gofynion storio newydd ond nad ydynt ar hyn o bryd yn gallu cydymffurfio hyd at 1 Awst 2025.
Mae UAC wedi clywed am lawer o ffermwyr yn derbyn cosbau dros y misoedd diwethaf oherwydd gwallau o fewn system or-gymhleth nad ydynt, o reidrwydd, yn cyflwyno risg llygredd ar lawr gwlad. Mae UAC felly yn croesawu’r ffaith y bydd achosion amaethwyr sydd wedi eu cosbi ers 2021 yn cael eu hadolygu ar sail y safonau diwygiedig.
Bydd y cyhoeddiad hwn yn sicr o leddfu’r straen a’r pwysau iechyd meddwl sydd ar nifer o ffermwyr Cymru dros y misoedd nesaf, ac mae’r Undeb wedi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth Cymru a Dr Susannah Bolton ar adolygu’r rheoliadau hyn er lles y diwydiant ac ansawdd ein dyfroedd yng Nghymru.