Ymateb UAC i ddata incwm ffermydd diweddaraf Llywodraeth Cymru

Mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) wedi ymateb i ddata a ryddhawyd gan Lywodraeth Cymru ar Incwm Ffermydd o Ebrill 2023 i Fawrth 2024.

 

Mae’r data diweddaraf yn dangos bod incwm cyfartalog Busnesau Fferm yng Nghymru wedi gostwng 39% o un flwyddyn i’r llall. 

 

 

Yn 2023-24, gostyngodd incwm cyfartalog ffermydd llaeth 59% i £67,500 – sef cwymp brawychus ers ei lefel uchaf erioed yn 2022-23. Roedd y data diweddaraf hefyd yn dangos gostyngiad yn incwm ffermydd gwartheg a defaid o fewn Ardaloedd Llai Ffafriol, sef cwymp o 9% yn 2023-24 i £22,000.

 

Mae’r ystadegau diweddaraf ar Incwm Busnesau Fferm yng Nghymru’n dangos realiti economaidd ceisio cynnal lefelau proffidioldeb yn erbyn cefnlen o gostau cynyddol a biwrocratiaeth.

 

Mae ffermydd llaeth wedi gweld gostyngiad sylweddol yn sgil cynnydd cyfartalog o 10% yng nghostau cyffredinol y fferm, ochr yn ochr â llai o incwm.

 

Yn gyffredinol, fodd bynnag, mae’r gyfran o fusnesau fferm yng Nghymru sy’n cynhyrchu incwm negyddol yn parhau i gynyddu i dros 20%.  Man lleiaf, mae hyn yn dangos yr angen i Gynllun Ffermio Cynaliadwy y dyfodol gynnig yr un lefel o sefydlogrwydd economaidd â’r un a ddarperir ar hyn o bryd drwy Gynllun y Taliad Sylfaenol, ac mae’r diwydiant wedi croesawu’r ffaith bod hwnnw’n parhau ar gyfer 2025.

 

Mae’r data incwm ffermydd a ryddhawyd yn deillio o’r Arolwg Busnes Fferm blynyddol.

 

Mae data llawn Llywodraeth Cymru ar gael ar y ddolen isod:

 

https://www.llyw.cymru/incymau-fferm-ebrill-2023-i-fawrth-2024-html