Sylwadau UAC ar yr achos o Glwy’r Traed a’r Genau yn yr Almaen

Mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) wedi ymateb i adroddiadau am achos o Glwy’r Traed a’r Genau yn yr Almaen.

Canfuwyd y clefyd ar fferm byfflo dŵr yn Märkisch-Oderland, Brandenburg yn nwyrain y wlad ar 10 Ionawr. Dyma’r achos cyntaf o Glwy’r Traed a’r Genau yn yr Almaen am bron i 40 mlynedd.

Nid yw Clwy’r Traed a’r Genau yn peri risg i bobl na diogelwch bwyd.

Mewn ymateb i’r achos, mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ei bod hi’n gwahardd mewnforio gwartheg, moch a defaid o’r Almaen wrth iddi gynyddu ei mesurau i atal lledaeniad Clwy’r Traed a’r Genau.  Cadarnhawyd hefyd na fydd tystysgrifau iechyd mewnforio yn cael eu dosbarthu bellach ar gyfer anifeiliaid sy’n agored i Glwy’r Traed a’r Genau, gan gynnwys anifeiliaid byw a chig ffres.

Bydd yr achos diweddar o Glwy’r Traed a’r Genau yn yr Almaen yn destun pryder i ffermwyr da byw ledled Ewrop.

Mae’n anochel y bydd y newyddion yn dwyn atgofion yn ôl o’r effaith bellgyrhaeddol a gafodd y clefyd ar y sector amaeth a chefn gwlad yn gyfan gwbl dros ddau ddegawd yn ôl yn 2001, ac yn ein hatgoffa o bwysigrwydd gwiriadau trylwyr ar ein ffiniau er mwyn sicrhau nad yw’r clefyd yn cael ei fewnforio i'r DU.

Mae Clwy'r Traed a’r Genau yn glefyd hysbysadwy yn gyfreithiol ac mae’n rhaid rhoi gwybod amdano. Os ydych chi’n amau ​​bod eich anifeiliaid yn dioddef o glefyd hysbysadwy, rhaid ichi roi gwybod amdano ar unwaith drwy ffonio Llinell Gymorth y Llywodraeth. Mae methu â gwneud hynny yn drosedd.

Y rhif i roi gwybod am achos amheus yw:

03000 200 301 yn Lloegr

0300 303 268 yng Nghymru