Ni ddaw helynt ei hunan. O edrych yn ôl dros y deuddeg mis diwethaf, mae wedi teimlo ar adegau fel pe bai’r sector amaethyddol wedi dioddef storm berffaith – gydag un her ar ôl y llall yn rhoi mwy o straen ar ffermwyr diwyd Cymru.
A sôn am stormydd, mae’n anodd anghofio’r holl dywydd gwlyb y bu’n rhaid inni ei ddioddef dros fisoedd y gaeaf ar ddechrau’r flwyddyn. Yn ystod un o’r gaeafau gwlypaf ar gofnod, ni welwyd fawr o welliant tan ddiwedd Ebrill, gyda’r glaw yn amharu ar gnydau ac yn gwneud y tymor wyna – sydd bob amser yn adeg anodd i ffermwyr – hyd yn oed yn anoddach.
Nid dim ond y glaw oedd yn achosi diflastod chwaith. Ledled Ewrop, daeth y gwanwyn â chymylau o anfodlonrwydd a gweithredu diwydiannol o fewn y sector amaethyddol, a buan iawn y gwelwyd protestio o’r fath yng Nghymru. Yn sgil y rhwystredigaeth barhaus gyda methiant y Llywodraeth i weithredu ar TB Gwartheg, y rheoliadau NVZ anaddas i’r diben, a’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd, pwy all anghofio’r protestiadau ‘Digon yw Digon’ yn Y Trallwng, Caerfyrddin a Chaerdydd - a oedd yn adlewyrchu’r teimladau o ddicter a rhwystredigaeth o fewn ein cymunedau ffermio.
Mae’r anfodlonrwydd gyda’r olaf o’r rhain, sef y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS), wedi bod yn fater cyfarwydd iawn i UAC dros y misoedd diwethaf.. Fel yr amlinellodd yr Undeb ar y pryd, roedd cymaint o elfennau o’r Cynllun yn rhai anymarferol – o’r 10% o orchudd coed, i’r nifer sylweddol o Weithredoedd Cyffredinol, i beidio â chynnwys SoDdGA a thir comin - felly does fawr o syndod bod yr ymgynghoriad ar y cynigion wedi cael 12,000 o ymatebion, sef y nifer uchaf erioed.
Ers y gwanwyn, a’r storm o brotest a ddaeth yn sgil y cynigion SFS hyn, mae UAC wedi cael cyfle i weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid i wella’r cynigion. Nid yw hynny wedi bod yn hawdd bob amser, ond mae UAC o’r farn ein bod ni, yn sgil yr Amlinelliad diwygiedig a lansiwyd yn y Ffair Aeaf, mewn lle gwell erbyn hyn o ganlyniad.
Yn y bôn, fodd bynnag, dim ond diwedd y dechreuad yw hyn o hyd. Serch y newidiadau sylweddol i’r cynllun, mae llawer o waith i’w wneud o hyd ar y manylion, a rhaid sicrhau bod y gyllideb gysylltiedig, a’r fethodoleg dalu, yn darparu sefydlogrwydd economaidd go iawn i ffermydd teuluol yng Nghymru, wrth inni wynebu cefnlen o heriau eraill sylweddol.
Ar wahân i’r SFS, bu nifer o ddatblygiadau eraill pwysig o fewn y maes amaethyddol yn y Senedd - yn arbennig y strwythurau llywodraethu diwygiedig sy’n deillio o Gynllun Cyflawni Rhaglen Dileu TB Cymru. Mae blwyddyn arall wedi mynd heibio ac mae Cymru i’w gweld mor bell i ffwrdd o ddileu TB Gwartheg ag erioed. Fel Undeb, mae UAC yn dal i fod yn benderfynol o chwarae ei rhan ar Fwrdd y Rhaglen Ddileu, a gweithio’r agos â’r Grŵp Cynghori Technegol. Fel y cawn ein hatgoffa yn aml iawn, mae TB Gwartheg yn parhau i fod yn broblem enfawr i ffermwyr Cymru, yn ariannol ac yn emosiynol. Mae’n amlwg iawn hefyd na all y sefyllfa bresennol barhau, ac mae angen i Gymru newid ei dull o ddelio â’r clefyd creulon hwn yn llwyr.
A sôn am newid, bu newid mawr yn San Steffan yng Ngorffennaf hefyd, gyda Llafur mewn llywodraeth am y tro cyntaf mewn dros ddegawd. Gyda charfan sylweddol o Aelodau Seneddol newydd yn cael eu hethol yng Nghymru, mae wedi bod yn bleser i UAC deithio ar hyd a lled y wlad dros y misoedd diwethaf - o Fôn i Fynwy - yn cwrdd â nifer o’r Aelodau Seneddol newydd, ac yn tynnu sylw at yr heriau sy’n wynebu amaethyddiaeth yng Nghymru. Mae llawer o waith i’w wneud wrth gwrs, fel y dangosodd y protestiadau diweddar a’r ymateb chwyrn i’r Gyllideb a’r newid arfaethedig i’r Rhyddhad Eiddo Amaethyddol (APR) a’r dreth etifeddiaeth - a’r pryder go iawn ynghylch yr effaith y gall hyn ei gael ar deuluoedd ffermio yng Nghymru. Ar adeg o gryn ansicrwydd a rhwystredigaeth roedd hyn - a’r diffyg ymgynghori â’r diwydiant – un cam yn ormod ar ôl blwyddyn arbennig o anodd.