UAC yn ymateb i Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru

Mae Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) wedi ymateb i’r Gyllideb Ddrafft a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 10 Rhagfyr.

 

Cyhoeddodd y Gyllideb ddrafft gynnydd ym mhob adran o'r Llywodraeth, gyda'r adran Newid Hinsawdd a Materion Gwledig yn derbyn £36.35m (6.6%) ychwanegol o arian refeniw a £71.95m (31%) ychwanegol o arian cyfalaf.

 

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru hefyd y byddai’n cadw terfyn uchaf Cynllun y Taliad Sylfaenol (BPS) ar £238m ac yn darparu cyllid ychwanegol o £5.5m ar gyfer adnoddau ac £14m o arian cyfalaf ar gyfer cynlluniau buddsoddi gwledig ehangach.

 

Yn gynharach eleni, cyflwynodd UAC dystiolaeth gynhwysfawr i Bwyllgor Cyllid y Senedd yn amlinellu’r angen dybryd i ddiogelu ac adfer cyllid fferm, yn ogystal â chynnal taliadau Cynllun y Taliad Sylfaenol (BPS) ar eu cyfraddau presennol. Daeth yr alwad hon yn sgil  cyfres o doriadau dros y blynyddoedd diwethaf i gyllideb Materion Gwledig Cymru, gyda blwyddyn ariannol 2023-2024 yn gweld toriad o £37.5 miliwn. Dilynwyd hyn gan gyllideb 2024-2025, pan gafwyd cwtogi pellach o £62 miliwn o un flwyddyn i’r llall, sef y gostyngiad perthynol mwyaf i unrhyw un o gyllidebau adrannol Llywodraeth Cymru, o tua 13%.

 

Mae ffermwyr Cymru yn wynebu galwadau cynyddol i gyflawni mwy a mwy o amcanion cynaliadwyedd ac amgylcheddol, tra’n parhau i gynhyrchu bwyd o ansawdd uchel. 

O ystyried y cwtogi anghymesur a welwyd yng nghyllideb Materion Gwledig Cymru dros y blynyddoedd diwethaf, mae penderfyniad Llywodraeth Cymru i gynyddu cyllid refeniw Newid Hinsawdd a Materion Gwledig o 6.6% yn un i’w groesawu – ac mae’n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn darparu eglurder ar frys ynghylch sut y bydd y cyllid adrannol yma’n cael ei ddosbarthu i gefnogi ffermydd teuluol a’n cymunedau gwledig.

 

Mae UAC  wedi bod yn glir bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru ddiogelu taliadau Cynllun y Taliad Sylfaenol ar gyfer 2025-2026, yn enwedig wrth inni edrych ymlaen at y cyfnod pontio gyda’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy. I’r perwyl hwn, mae UAC yn croesawu’r penderfyniad i gynnal terfyn uchaf taliadau’r BPS – sy’n hollbwysig o ran darparu lefel o sicrwydd i ffermwyr yng Nghymru wrth iddynt wynebu llu o heriau a newidiadau eraill.

 

Er bod cyllid ychwanegol wedi'i ddarparu ar gyfer buddsoddiad gwledig ehangach a chynlluniau amgylcheddol, mae angen atebion ar frys ynghylch sut mae hyn yn cymharu â'r buddsoddiad gwledig a gafodd Cymru yn hanesyddol drwy'r rhaglenni cymorth Ewropeaidd.

 

O ystyried bod Llywodraeth y DU wedi gwneud penderfyniad i gynnal lefelau blaenorol y cyllid Materion Gwledig drwy Grant Bloc Llywodraeth Cymru, nid oes unrhyw reswm pam y dylid tynnu unrhyw gyllid yn ôl o’r cymorth ar gyfer Materion Gwledig - yn enwedig o ystyried bod Cymru wedi cael tua £90 miliwn yn flaenorol drwy grant Cronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig, gyda thua hanner ohono’n cael ei drosglwyddo’n flynyddol drwy’r  taliadau uniongyrchol a dderbyniwyd gan ffermwyr.

 

Wrth edrych ymlaen, mae’n hollbwysig bod unrhyw gynnydd yn y gyllideb Newid Hinsawdd a Materion Gwledig yn cael ei ddyrannu’n deg i’r sector amaethyddol. Fel y bydd modelu economaidd yn debygol o ddangos, ni ellir disgwyl i gyllidebau’r dyfodol ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy aros ar y lefelau presennol – ond rhaid iddynt, man lleiaf, gael eu cynnal ar lefel sy’n cyfateb i gyfanswm cyllid hanesyddol Polisi Amaethyddol Cyffredin Ewrop, sef o leiaf £337 miliwn y flwyddyn.