Fel rhan o’i galwadau, mae UAC wedi annog Llywodraeth Cymru i adfer cyllideb lawn Materion Gwledig Cymru i’w lefel cychwynnol yn 2023 o £482.5 miliwn, yn ogystal â chadw cyfraddau presennol Cynllun y Taliad Sylfaenol (BPS) ar gyfer ffermwyr yng Nghymru.
Mae galwadau’r Undeb yn dod yn sgil cyfres o doriadau dros y blynyddoedd diwethaf i gyllideb Materion Gwledig Cymru, gyda thoriad o £37.5 miliwn yn ystod blwyddyn ariannol 2023-2024.
Dilynwyd hynny gan gyllideb 2024-2025, pan gyhoeddwyd cwtogi pellach o £62 miliwn o un flwyddyn i’r llall, sef y gostyngiad perthynol mwyaf i unrhyw un o gyllidebau adrannol Llywodraeth Cymru, o tua 13%.
Mae’r gyllideb ddrafft hon yn cyd-fynd â chyfnod o bwysau cynyddol ar ffermwyr Cymru, ac mae’n gyfle i Lywodraeth Cymru adfer ei chymorth i’r sector.
Dros y blynyddoedd diwethaf mae cyllid Materion Gwledig wedi’i gwtogi’n anghymesur – serch y disgwyliad cynyddol ar y sector i gyflawni mwy a mwy o amcanion cynaliadwyedd ac amgylcheddol, gan barhau i gynhyrchu bwyd ar yr un pryd.
Ar tua 2%, mae cyllid Materion Gwledig yn cyfrif am gyfran fach iawn o gyllideb gyfan Llywodraeth Cymru - ond mae effeithiau lluosydd y cyllid - boed yn economaidd, amgylcheddol neu gymdeithasol - yn sylweddol.
O ystyried y cynnydd yn y dyraniad cyffredinol o gyllid ar gyfer Cymru o Drysorlys y DU, mae’n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn adfer y gyllideb i’w lefel blaenorol yn 2023.
Mae UAC hefyd wedi tynnu sylw at yr angen brys i Lywodraeth Cymru gynnal y gyfradd dalu bresennol drwy gynllun y BPS ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.
Ar gyfartaledd mae 80% o incwm busnesau fferm yn dod trwy daliadau (BPS) uniongyrchol, gan ddarparu rhwyd ddiogelwch sylweddol ar gyfer nifer o ffermydd Cymru, gyda’r arian yn cael ei fuddsoddi’n helaeth ar lefel leol, gan sicrhau cyflogaeth a thwf economaidd.
Mae’r crebachu o ran y gyllideb Materion Gwledig wedi digwydd ar yr un pryd â gostyngiad sylweddol yn y cyllid ar gyfer amaethyddiaeth a datblygu gwledig sydd ar gael drwy Drysorlys y DU i ffermwyr yng Nghymru, ar ôl inni adael yr Undeb Ewropeaidd.
Mae hyn yn golygu bod Cymru yn derbyn tua chwarter biliwn o bunnau yn llai o gyllid ar gyfer amaethyddiaeth a datblygu gwledig nag y gellid fod wedi’i ddisgwyl pe bai’r DU wedi aros yn yr Undeb Ewropeaidd. Mae hyn yn cyfateb i golled o tua £15,000 i bob un sy’n hawlio BPS yng Nghymru ers 2019.
I nifer o ffermydd teuluol y BPS yw’r gwahaniaeth rhwng busnes hyfyw a busnes anhyfyw. Fel mae UAC eisoes wedi dweud yn glir wrth Llywodraeth Cymru ar fwy nag un achlysur, mae cynnal y cyfraddau hyn yn hanfodol er mwyn darparu’r sefydlogrwydd a’r hyder sydd ei wir angen o fewn y sector.
Gyda 50,000 o bobl yn gweithio o fewn amaethyddiaeth yng Nghymru, ac yn perthyn i sector bwyd a ffermio ehangach gwerth dros £9 biliwn i’r wlad yn flynyddol, mi allai’r goblygiadau o ran cyflogaeth a goblygiadau economaidd a chymdeithasol unrhyw gwtogi ar y PBS fod yn rhai drastig o ran cynhyrchu bwyd, ac i ddiwydiant a chefn gwlad Cymru yn ei chyfanrwydd.
Mae UAC hefyd wedi annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y £340 miliwn a dderbyniwyd gan Lywodraeth y DU, i gymryd lle cyllid Ewropeaidd, yn parhau i gael ei fuddsoddi yn y sector, yn dilyn newidiadau yng nghyhoeddiad Cyllideb Llywodraeth y DU ym mis Hydref.
Yn y gorffennol, mae llywodraethau datganoledig wedi derbyn cyllid ar gyfer amaethyddiaeth a physgodfeydd fel ychwanegiad wedi’i glustnodi, ond o 2025-2026 mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau y bydd yn defnyddio fformiwla Barnett, gyda’r cyllid presennol yn cael ei gynnwys fel ‘llinell sylfaen’ o fewn grant bloc Cymru ar gyfer 2025-2026.
Mae UAC eisoes wedi rhybuddio y gallai ‘Barneteiddio’ cyllid amaethyddol yn y ffordd yma olygu bod cyllideb wledig ac anghenion amaethyddol Cymru dan anfantais sylweddol – gan olygu bod yna symudiad i ffwrdd o’r hyn a oedd gynt yn ddyraniad anghenion gwledig, i ddyraniad seiliedig ar boblogaeth.