Crynodeb o Newyddion Ionawr 2025

Cyhoeddi Prif Weithredwr newydd i arwain Hybu Cig Cymru

 

Mae HCC wedi cyhoeddi mai José Peralta yw ei Brif Weithredwr newydd.

 

Mae gan José brofiad helaeth o weithio ar lefel Rheolwr Gyfarwyddwr yn niwydiant cig y DU ers dros 25 mlynedd. Mae ei swyddi blaenorol yn cynnwys gweithio fel Rheolwr Gyfarwyddwr i fusnes cig coch mwyaf ond un y DU

dan berchnogaeth Grampian Country Food Group, Vion, a 2 Sisters Food Group.  Bu hefyd yn Rheolwr Gyfarwyddwr Tulip Food Company ac yn Brif Weithredwr Puffin Produce yn Sir Benfro.

 

Bydd José Peralta yn dechrau ar ei rôl newydd Ddydd Llun 20 Ionawr 2025.



Denmarc i gyflwyno treth garbon ar amaethyddiaeth

 

Ym mis Tachwedd, pleidleisiodd Senedd Denmarc o blaid y Green Tripartite Agreement yn ei gyfanrwydd.  Bydd y cytundeb yn dod i rym yn 2030 a’r nod yw galluogi Denmarc i gyrraedd ei tharged o dorri 70 y cant o’i holl allyriadau erbyn y flwyddyn honno.

 

O 2030 bydd ffermwyr yn gorfod talu 120 krone (€16) fesul tunnell o allyriadau CO2 cyfatebol, a fydd yn codi i 300 krone (€40) o 2025 ymlaen.

 

Bydd y cytundeb hwn yn golygu bod 43 biliwn krone (£4.8 biliwn) ar gael i brynu tir oddi wrth ffermwyr a’i droi yn goedwigoedd, a’r bwriad yw plannu biliwn o goed ar dir amaethyddol dros y ddau ddegawd nesaf.



Defnydd o wrthfiotigau mewn amaethyddiaeth yn parhau i fod yn isel

 

Lansiwyd Adroddiad diweddaraf Targedau Tasglu RUMA (y Gynghrair Defnydd Cyfrifol o Feddyginiaethau Mewn Amaethyddiaeth) ym mis Tachwedd, a oedd yn dangos bod y defnydd o wrthfiotigau yn parhau i fod yn isel, ac mae gwyliadwriaeth hirdymor yn dangos bod ymwrthedd yn gostwng a’i fod ar y lefel isaf erioed.

 

Mae’r adroddiad diweddaraf yn dangos bod 2023 yn flwyddyn arall eto o ymdrech ac ymrwymiad mawr ar draws holl sectorau da byw y DU o ran defnydd cyfrifol o wrthfiotigau. Mae’r ffigurau defnydd cenedlaethol yn parhau i fod yn isel a does fawr ddim newid ers y llynedd.