UAC yn croesawu’r ddeddfwriaeth BVD newydd sydd i’w chyflwyno ar 1 Gorffennaf, ond yn dweud bod cymorth y llywodraeth yn hanfodol i’w llwyddiant

Serch y rhwystredigaeth am yr oedi cyn cyflwyno deddfwriaeth Dolur Rhydd Feirysol Buchol (BVD) yng Nghymru, bydd Gorchymyn BVD Cymru 2024, y bu disgwyl hir amdani, yn cael ei chyflwyno o 1 Gorffennaf 2024.

Mae BVD yn glefyd heintus mewn gwartheg, all achosi amryw o broblemau iechyd, gan gynnwys erthylu, anffrwythlondeb a Chlefyd Mwcws, sy’n angheuol.    Mae’r feirws yn byw mewn buchesi drwy gyfrwng nifer fach o anifeiliaid a enir ‘wedi’u heintio’n barhaus’ â’r feirws.

Amcangyfrifir bod costau blynyddol BVD mewn buches o 100 o fuchod cig eidion yn £4,500, ac yn £15,000 o leiaf mewn buches o 130 o fuchod llaeth, a rhagwelwyd y byddai cyflwyno’r ddeddfwriaeth hon yn ddi-oed yn cael gwared â’r pocedi o BVD oeddd ar ôl yn dilyn llwyddiant y rhaglen sgrinio Gwaredu BVD wirfoddol.

Fodd bynnag, mae deunaw mis wedi pasio ers i’r cyllid a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer Gwaredu BVD ddod i ben, sydd wedi arwain at 83% yn llai o anifeiliaid yn cael eu cyflwyno ar gyfer profion BVD yn ôl adroddiadau Canolfan Milfeddygaeth Cymru.

Bydd cam cyntaf y ddeddfwriaeth newydd yn gofyn bod holl geidwaid gwartheg Cymru’n cynnal profion BVD ar eu buchesi’n flynyddol, ac yn ynysu unrhyw anifeiliaid sydd wedi’u heintio’n barhaus o weddill y fuches am weddill eu hoes.

Mae hwn yn gam yn y cyfeiriad iawn tuag at gael gwared â BVD yng Nghymru, ond mae yna bryderon o hyd am y cymorth sydd ar gael  i roi’r ddeddfwriaeth ar waith yn llwyddiannus.  Mae UAC nawr yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i gefnogi’r diwydiant a’i awydd i wella iechyd a lles gwartheg.

Byddai cael gwared â BVD nid yn unig o fudd i iechyd a lles gwartheg yng Nghymru, gan arwain at fwy o effeithlonrwydd a lleihau ôl troed carbon ffermydd, mi fyddai hefyd yn fodd i hyrwyddo cynhyrchwyr o Gymru mewn trafodaethau masnach, nawr ac yn y dyfodol, gan olygu bod Cymru yn yr un sefyllfa â nifer o wledydd eraill sydd eisoes â statws rhydd o BVD