UAC yn anfon neges glir i Lywodraeth Lafur newydd y DU bod angen cyllid blynyddol teg i amaethyddiaeth yng Nghymru

Bydd Undeb Amaethwyr Cymru’n mynd ati’n ddi-oed i anfon neges glir i Lywodraeth Lafur newydd y DU yn San Steffan bod angen setliad ariannol blynyddol teg ar Gymru o £450 miliwn o gyllid etifeddol PAC yr UE, i gefnogi cynhyrchiant, yr economi wledig, a’r gwaith a wna ffermwyr dros yr amgylchedd.

Yn dilyn buddugoliaeth ysgubol yn yr etholiad cyffredinol ar adeg pan mae ffermio yng Nghymru wedi cyrraedd croesffordd bwysig, mae gan Blaid Lafur y DU gyfle nawr i ddylanwadu ar ddyfodol cefn gwlad Cymru dros y degawdau nesaf.

Yn gyntaf, hoffai UAC longyfarch y Prif Weinidog newydd a’i blaid ar eu buddugoliaeth hanesyddol yn yr etholiad cyffredinol, a diolch i’r Aelodau Seneddol hynny y mae UAC wedi gweithio’n agos â nhw dros y pum mlynedd diwethaf.

Mae’r etholiad hwn wedi newid y darlun gwleidyddol yng Nghymru yn sylweddol, gyda llai o lawer o etholaethau, a Llywodraeth Lafur newydd gyda mwyafrif yn San Steffan erbyn hyn.

Nid yw UAC yn gysylltiedig ag unrhyw blaid wleidyddol ac felly mae’n barod i gydweithio â gwleidyddion o bob plaid i sicrhau bod lleisiau ffermwyr Cymru yn cael eu clywed.

Mae Maniffesto Etholiad Cyffredinol UAC yn nodi blaenoriaethau allweddol yr Undeb ar gyfer y llywodraeth newydd, gan ganolbwyntio ar sicrhau setliad ariannol amlflwydd teg o £450 miliwn y flwyddyn o leiaf o gyllid etifeddol PAC yr UE ar gyfer amaethyddiaeth a datblygu gwledig yng Nghymru. Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd y cymorth hwn fel sylfaen ar gyfer cynhyrchu bwyd, a diogelu’r amgylchedd a chymunedau gwledig yng Nghymru.

Mae’n hanfodol bod Llywodraeth newydd y DU yn sicrhau bod unrhyw gytundebau â gwledydd a blociau masnachu eraill yn y dyfodol yn mabwysiadu agwedd llawer mwy cadarn, i amddiffyn ffermwyr y DU a diogelu’r cyflenwad bwyd. Ar ben hynny, rhaid i fewnforion ac allforion bwyd wynebu’r un tollau a rheoliadau safonol i sicrhau tegwch rhwng cynhyrchwyr y DU a’r UE.

Mae Maniffesto’r Undeb hefyd yn galw ar Lywodraeth y DU i gyflwyno polisïau caffael sy’n rhoi blaenoriaeth i gefnogaeth cyrff cyhoeddus i fusnesau Cymreig a Phrydeinig, ac sy’n hyrwyddo cadwyn gyflenwi fwy tryloyw.

Er bod cyfeiriad ffermio yng Nghymru’n dibynnu i raddau helaeth iawn ar ddatblygu polisïau amaethyddol datganoledig, ni ddylid anghofio sut y bydd penderfyniadau a wneir gan weinyddiaeth newydd y DU, i bob pwrpas, yn pennu’r cyllid fydd ar gael i Lywodraeth Cymru i gefnogi amaethyddiaeth a datblygu gwledig. Bydd hefyd yn rheoli i ba raddau y disgwylir i gynhyrchwyr o Gymru gystadlu yn erbyn cynhyrchwyr gwledydd eraill y DU, a ledled y byd, ar wahanol lefelau.

Dyna pam y bydd UAC yn mynd ati’n ddi-oed i gysylltu â’r Aelodau Seneddol newydd dros Gymru a’r rhai sy’n ymgymryd â rolau dylanwadol yn y senedd, i sicrhau bod blaenoriaethau allweddol yn cael eu hamlinellu cyn gynted â phosib.

Er gwaetha’r her o ymdopi â thirwedd wleidyddol sy’n newid yn gyson, mae ein rôl fel Undeb o ran lobïo llywodraethau am y canlyniadau gorau posib i amaethyddiaeth yng Nghymru yn parhau i fod yn un gyson a diflino.