Rhaid i Lywodraeth Cymru barhau i wrando ar ffermwyr Cymru wrth i’r ymateb i ymgynghoriad y Cynllun Ffermio Cynaliadwy gael ei gyhoeddi, medd UAC

Rhaid i Lywodraeth Cymru barhau i wrando ar ffermwyr Cymru wrth i’r crynodeb o ymatebion i ymgynghoriad diweddaraf y Cynllunio Ffermio Cynaliadwy (SFS) gael ei gyhoeddi. Mae llais y diwydiant wedi bod yn uchel ac yn glir, a hyd yn hyn, mae wedi bod yn broses heriol i bawb dan sylw.

Nid yw’n syndod bod y farn gyffredin o du’r nifer enfawr o 12,000 o ffermwyr a sefydliadau a ymatebodd i’r ymgynghoriad yn galw am newidiadau sylweddol i gynigion y cynllun.

Dyma hefyd oedd y neges glir gan aelodau UAC a ymatebodd yn unigol, gan fwydo eu barn i ymateb cynhwysfawr yr Undeb i’r ymgynghoriad yn gynharach eleni. Mae UAC yn gwneud pob ymdrech posibl i sicrhau bod y cynllun hwn yn gweithio i ffermwyr.

Mae UAC yn croesawu’r sylwadau a wnaed gan Ysgrifennydd y Cabinet wrth iddo ymrwymo i beidio â chyflwyno’r cynllun nes bod hwnnw’n barod. Mae angen i hwn fod yn gynllun cymorth amaethyddol sy’n rhoi sefydlogrwydd i ffermydd teuluol sy’n cynhyrchu bwyd yng Nghymru ac sy’n rhoi ystyriaeth gyfartal i gynaliadwyedd economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol. Fel Undeb, dyma ein nod pennaf o hyd.

Mae’r datganiad ysgrifenedig gan Ysgrifennydd y Cabinet yn cyfeirio at waith parhaus Bwrdd Crwn Gweinidogol yr SFS, a grwpiau Dal a Storio Carbon a  Swyddogion, yn adolygu’r cynllun a’i roi ar waith, mewn partneriaeth â’r undebau ffermio a rhanddeiliaid eraill.

Croesawodd UAC y cyhoeddiad na fydd y Cynllun Ffermio Cynaliadwy’n dechrau tan 2026 ac y bydd cyfnod o baratoi yn digwydd y flwyddyn nesaf.

Mae UAC yn gweithio’n galed ac yn ddiflino gydag Ysgrifennydd y Cabinet, rhanddeiliaid a swyddogion Llywodraeth Cymru, ac mae  trafodaethau hynod bwysig wedi cymryd lle.

Gall aelodau UAC fod yn ffyddiog  bod yr Undeb yn gwneud ei gorau glas i sicrhau cynllun sy’n gweithio i holl ffermwyr Cymru, o 2026 ymlaen. Dyma yw ymrwymiad yr Undeb i ffermwyr Cymru o hyd.