Crynodeb o Newyddion Gorffennaf 2024

Ffermio’n parhau i fod yn un o’r galwedigaethau mwyaf peryglus

Mae’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch wedi cadarnhau bod 27 o bobl wedi marw ar ffermydd dros y flwyddyn ddiwethaf.  Gydag wyth digwyddiad ychwanegol yng Ngogledd Iwerddon, mae cyfanswm y marwolaethau a gofnodwyd ar gyfer 2023 a 2024 yn 35, hyd yn hyn.

Mae ffermio ac amaethyddiaeth yn parhau i fod ag un o’r cofnodion iechyd a diogelwch mwyaf peryglus ym Mhrydain.

Mae’r ystadegau brawychus hyn wedi’u cyhoeddi yn ystod yr Wythnos Diogelwch Fferm flynyddol, sy’n canolbwyntio ar faterion iechyd a diogelwch sy’n effeithio ar ffermwyr.

 

 

Pryderon am Ffliw Adar yn yr Unol Daleithiau

Cafwyd pedwar achos dynol o ffliw adar pathogenedd uchel yn yr Unol Daleithiau, yn gysylltiedig â nifer o achosion ymhlith buchod llaeth.

Yn ôl adroddiadau Canolfannau Rheoli ac Atal Clefydau (CDC) yr Unol Daleithiau mae gweithiwr llaeth yn nhalaith Colorado wedi profi’n bositif ar gyfer y feirws.  Cafwyd adroddiadau am dri achos arall yn yr Unol Daleithiau ers mis Ebrill, un yn Texas a dau ym Michigan.

Mae Canolfannau Rheoli ac Atal Clefydau Ewrop (ECDC) wedi asesu’r risg o heintiad gan y ffliw adar pathogenedd uchel yn Ewrop fel un “isel ar gyfer y boblogaeth  gyffredinol, ac isel i gymedrol ar gyfer y rhai sy’n gweithio gydag anifeiliaid sydd wedi’u heintio neu mewn amgylchedd sydd wedi’i halogi”.  Yn ôl  yr ECDC nid yw genoteip y feirws a ganfuwyd mewn pobl a buchod yn yr Unol Daleithiau wedi’u ganfod yn Ewrop hyd yma.

 

 

Chwyddiant bwyd yn parhau i ostwng yn y DU

Cododd chwyddiant bwyd ym Mhrydain i’w lefel uchaf ers 45 mlynedd, sef 19.2% ym mis Mawrth 2023, yn sgil costau ynni cynyddol, prinder llafur, a’r amharu ar allforion Wcráin.

Mae’r ffigurau diweddaraf a ryddhawyd yn dangos bod prisiau bwyd a diodydd di-alcohol wedi codi o 1.5% yn y flwyddyn hyd at fis Mehefin 2024, i lawr o 1.76% yn y flwyddyn hyd at fis Mai.

Ni ddisgwylir i gynaeafau gwael cnydau megis tatws a winwns yn y DU yn sgil y llifogydd yn gynharach eleni gael effaith sylweddol ar chwyddiant bwyd yn y dyfodol agos.