Yn ystod y cyfnod o dywydd sych a gafwyd nôl ym Mehefin manteisiodd nifer o bobl ar y cyfle i wneud y mwyaf o’r tywydd da a thorri gwair yn gynnar. Er bod y tymheredd yn ffafriol, ni chafodd pob ardal ddiwrnodau o haul uniongyrchol, gan olygu bod y glaswellt a dorrwyd yn cael ei sychu mwy gan y cynhesrwydd a’r gwynt.
Mae’n cymryd ychydig yn hirach bob amser i gynaeafu gwair ym Mehefin am ei fod yn cynnwys mwy o leithder. Dros y blynyddoedd diwethaf, bu’n anodd cynllunio cynaeafau, sydd wedi arwain at gynnydd mewn cynaeafau pan fachwyd ar y cyfle i dorri a byrnu rhwng cyfnodau o dywydd ansefydlog.
Gall unrhyw un sydd â phryderon am fêls sydd eisoes wedi’u storio yn gordwymo ofyn am ymweliad AM DDIM gan y Gwasanaeth Tân i gynnal Profion Tymheredd Bêls. Gall bêls gwair ddechrau twymo o fewn dyddiau o’u storio, a thros y blynyddoedd diwethaf rydym wedi gweld cynnydd mawr yn y nifer o danau ysgubor tua 6 wythnos ar ôl storio, gyda’r bêls mawr sgwâr yn achosi’r mwyaf o broblemau.
Gall arwyddion bod bêls yn gordwymo gynnwys -
- Stêm yn dod o’r pentwr
- Llwydni’n ffurfio ar y bêls neu yn y bylchau rhyngddyn nhw
- Bêls yn teimlo’n gynnes a llaith, yn enwedig y tu mewn i’r bêl neu yn y bylchau rhwng bêls
- Bêls yn chwysu’n ormodol
- Bêls yn afliwio/brownio, y darnau brown yn edrych fel tybaco
- Arogl melys, afiach neu arogl llwydni
- Y pentwr yn suddo
Argymhellir y dylai gwair/gwellt fod â lleithder is na 22% cyn ei storio, yn ddelfrydol tua 15%. Gall unrhyw beth sy’n uwch na hynny ddechrau cadwyn ymateb, gyda’r bêls yn parhau i gynhyrchu eu gwres eu hunain nes y bydd hylosgiad digymell yn digwydd yn y pen draw.
Dylai unrhyw un sydd am wneud cais am brawf tymheredd bêls AM DDIM gysylltu â’r Gwasanaeth Tân yn uniongyrchol ar 01268 909408, ond dylai unrhyw un sy’n poeni bod eu bêls ar fin hylosgi alw 999 ar unwaith.