Mae’r Grŵp Iechyd a Lles Anifeiliaid Cnoi Cil wedi cyhoeddi diweddariad ar y risg mewn perthynas â chlefyd y Tafod Glas. Yn sgil y tywydd cynhesach yn ddiweddar, gyda’r tymheredd dyddiol cyfartalog yn uwch na 12°C yn gyson, mae yna bosibilrwydd bellach o drosglwyddo feirws y Tafod Glas (BTV) mewn siroedd risg uchel.
Er nad oes unrhyw achosion byw o BTV-3 yn y DU ar hyn o bryd, nac unrhyw dystiolaeth o gylchrediad feirws y Tafod Glas, gyda’r tymheredd cynhesach a welwyd yn ddiweddar, gwyddom fod y gwybed sy’n lledaenu’r feirws yn fwy gweithgar ar hyn o bryd. Mae datblygiad BTV mewn gwybed hefyd yn dibynnu ar y tymheredd.
Pe bai gwybedyn yn dod i gysylltiad â BTV-3, mae’n ddigon cynnes erbyn hyn i wneud hi’n bosibl i’r feirws gael ei drosglwyddo’n lleol rhwng gwybed ac anifeiliaid cnoi cil yn y DU.
Mae achosion o'r Tafod Glas yn cael eu monitro ar y Cyfandir. Bydd lefelau trosglwyddiad BTV-3 o fewn gwledydd Ewropeaidd cyfagos, ynghyd â ffactorau meteorolegol, yn pennu a fydd gwybed wedi’u heintio yn cael eu chwythu drosodd o Ogledd Ewrop.
Yn ystod y cyfnod hwn o dywydd cynhesach, a chydag adroddiadau bod y clefyd ar y Cyfandir, bydd y risg bod BTV-3 yn cael ei ailgyflwyno i’r DU yn cynyddu.
Gyda’r risg o drosglwyddiad lleol yn bosibl bellach, mae’r Grŵp Iechyd a Lles Anifeiliaid Cnoi Cil yn atgoffa ffermwyr i fod yn ymwybodol o’r perygl o BTV-3 mewn anifeiliaid a allai gael yr haint, ac i fod yn ofalus a defnyddio dull seiliedig ar dystiolaeth ACT (ymwybyddiaeth, gofal, tactegau) i ddiogelu rhag y straen diweddaraf, sef BTV-3.
Am eu bod y agos at ardaloedd o Ogledd Ewrop y gwyddys eu bod wedi’u heffeithio gan BTV-3, y siroedd risg uchel yw Norfolk, Suffolk, Essex, Caint a Dwyrain Sussex.
I gael y newyddion, y rheoliadau a’r wybodaeth ddiweddaraf, ewch i Ruminant Health & Welfare bluetongue hub, neu gall ffermwyr ffonio’r llinell gymorth Tafod Glas benodedig ar 024 7771 0386 i gael cyngor neu i ofyn cwestiynau.
Yn y DU, mae’r Tafod Glas, gan gynnwys BTV-3, yn glefyd hysbysadwy, felly dylai unrhyw sy’n amau achos o’r clefyd roi gwybod ar unwaith i Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion Cymru ar 0300 303 8268.