Cyflwyno Deddfwriaeth Dolur Rhydd Feirysol Buchol (BVD) newydd ar 1 Gorffennaf

Ar 1 Gorffennaf 2024 cyflwynwyd Gorchymyn Dolur Rhydd Feirysol Buchol (BVD) 2024 i waredu buchesi yng Nghymru o BVD.

Mae BVD yn feirws heintus mewn gwartheg sy’n achosi amryw o broblemau iechyd megis:

Gwanhau’r system imiwnedd, gan olygu bod gwartheg yn fwy tebygol o gael heintiau eraill megis Salmonelosis, heintiau resbiradol a  chocsidiosis.

Sgwrio a niwmonia mewn lloi o ganlyniad i  atal imiwnedd.

Problemau atgynhyrchu, gan gynnwys methu â beichiogi (anffrwythlondeb), yr embryo’n marw’n gynnar, erthylu a namau geni.

Mae gwartheg a gaiff eu heintio yn ystod pedwar mis cyntaf y beichiogrwydd yn rhoi genedigaeth i loi sydd “wedi’u heintio’n barhaus” â’r feirws.  Gall lloi o’r fath ymddangos yn glinigol normal ond maent yn fwy tebygol o gael dolur rhydd, wlserau yn y geg a’r traed, a chlefyd mwcosaidd, sy’n angheuol.

Yn anffodus ni all lloi sydd wedi’u heintio’n barhaus wella o’r feirws a bernir eu bod yn archledaenwyr BVD o fewn buchesi.

O 1 Gorffennaf 2024 mi fydd yn ofynnol i geidwaid gwartheg:-

  • Fynd ati bob blwyddyn i sgrinio’u buchesi am BVD
  • Ynysu anifeiliaid sydd â haint parhaus oddi wrth weddill y fuches am weddill eu hoes

Mi fydd gan geidwaid gwartheg tan 1 Gorffennaf 2025 i gwblhau eu prawf blynyddol ar y fuches.  Os canfyddir unrhyw anifeiliaid sydd â haint parhaus, byddant yn cael eu cadw ar y fferm am weddill eu hoes.

Gwybodaeth bellach:

https://www.llyw.cymru/cynllun-dileu-dolur-rhydd-feirysol-buchol-cymru-canllawiau-html