Newidiadau i’r Stocrestr Defaid

Bydd y ffordd mae'r stocrestr yn cael ei chynnal yng Nghymru yn newid.   Er mwyn sicrhau bod y stocrestr flynyddol yn gyson â holl wledydd eraill y DU, y dyddiad ar gyfer stocrestr yng Nghymru fydd 1 Rhagfyr bellach, ond ni fydd yr wybodaeth sydd ei hangen yn newid. 

Mae dau newid arwyddocaol:

  • Mae'r dyddiad ar gyfer y stocrestr yn newid. Y dyddiad yn y dyfodol ar gyfer pob stocrestr flynyddol fydd 1 Rhagfyr.  Y dyddiad nesaf y gofynnir ichi gofnodi nifer y defaid a/neu'r geifr sydd gennych fydd 1 Rhagfyr 2024. 
  • Symud i Stocrestr Flynyddol Ar-lein yn unig. O hyn ymlaen, ni fydd y copi caled arferol o'r stocrestr flynyddol yn cael ei gyhoeddi mwyach.

Yn y dyfodol, bydd angen cyflwyno eich stocrestr drwy eich cyfrif EIDCymru ar-lein.  Anogir ceidwaid nad oes ganddyn nhw gyfrif i gofrestru ar gyfer un dros yr haf. Bydd swyddfa EIDCymru yn hapus i'ch helpu i gofrestru ar gyfer cyfrif ar-lein.  Gallant hefyd ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.  Maent ar gael: 

Anogir ffermwyr i gysylltu â EIDCymru cyn gynted â phosibl. Gallant helpu gydag unrhyw ymholiadau sydd gennych am y broses newydd.

Cyn i'r stocrestr agor, bydd unrhyw geidwad sydd heb gyfrif EIDCymru yn derbyn llythyr gyda dolen ar-lein fel dull amgen o gwblhau'r rhestr. Os oes amgylchiadau eithriadol, fe'ch cynghorir i gysylltu â EIDCymru.

Mae'r stocrestr flynyddol yn gofnod o nifer y defaid a geifr sydd ar ddaliad a dylai gynnwys:

  • defaid magu
  • hyrddod
  • ŵyn gwryw
  • ŵyn stôr ac ŵyn wedi'u pesgi
  • mamogiaid/hyrddod i’w difa, a
  • defaid eraill a geifr

Rhaid ichi hefyd gofnodi nifer y defaid a geifr ar eich daliad yn Llyfr y Ddiadell ar eich fferm.

Rhaid ichi restru yn y stocrestr bob rhif daliad (CPH) lle rydych yn berchen ar ddefaid a/neu geifr. Mae hyn yn cynnwys tir comin a thir dros dro.

Os na fyddwch yn cwblhau'r stocrestr, rydych yn fwy tebygol o gael eich dewis ar gyfer archwiliad.