Cadarnhau Data Cynllun Ffermio Cynaliadwy 2024

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ymarfer cadarnhau data, fel rhan o’r Cam Paratoi ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS).

Nod yr ymarfer cadarnhau data yw diweddaru systemau mapio RPW gyda’r ardaloedd cynefin  a’r gorchudd coed cywir ar ffermydd, cyn i’r SFS gael ei ddylunio’n derfynol a’i gyflwyno yn 2026.

Bydd yr wybodaeth a gesglir hefyd yn cael ei defnyddio i ddiweddaru mapiau mewn paratoad ar gyfer Cynllun Cynefin Cymru 2025.

Mae’r ‘Ffurflen Cadarnhau Data SFS’ a ‘Cadarnhau Data SFS: Canllaw Sut i Lenwi’ ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru ar  https://www.llyw.cymru/grantiau-a-thaliadau-gwledig.  Dylech ddarllen y llyfrynnau hyn cyn llenwi eich Ffurflen Cadarnhau Data.

Bydd swyddfeydd sirol UAC yn helpu aelodau i gwblhau’r ymarfer hwn a gallwch gysylltu â’ch swyddfa sirol leol i wneud apwyntiad.