Prosiect ‘Bridio ar gyfer gwelliannau mewn defaid a gwartheg bîff’ yn recriwtio ffermwyr

Mae Hybu Cig Cymru, mewn partneriaeth, fel rhan o gonsortiwm mawr o sefydliadau academaidd ac o’r diwydiant, yn chwilio am 20 o ffermydd astudiaeth achos brwdfrydig ledled Cymru, Lloegr, Yr Aban a Gogledd Iwerddon, sydd am ddod o hyd i atebion cost-effeithiol i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr.

Nod y prosiect ‘Bridio ar gyfer gwelliannau mewn defaid a gwartheg bîff’ yw helpu cynhyrchwyr cig coch y DU i wneud gwell penderfyniadau bridio, sydd hefyd yn ymarferol a fforddiadwy.  

Gall ffermydd addas fod yn ffermydd bîff neu ddefaid pur, neu’n rhai cymysg, ond rhaid iddynt fod yn magu eu stoc cyfnewid ei hunain.

Bydd rhaid ichi allu mynychu dau weithdy hanner diwrnod, gyda’r cyntaf yn cael ei gynnal yn Aberystwyth ddydd Mawrth, 25 Chwefror o 11am – 3pm (yn canolbwyntio ar strategaethau bridio) a’r ail weithdy yn yr Haf i drafod canlyniadau’r prosiect.

Bydd rhaid ichi fod yn fodlon rhannu data perthnasol y fferm (gan gynnwys data perfformiad ac ariannol) er mwyn gallu gwneud dadansoddiad cost a budd o strategaethau bridio, a chwblhau asesiad ôl-troed carbon gan ddefnyddio 'Agrecalc’, gyda chymorth.

Bydd ffermydd astudiaeth achos sy’n darparu data ac yn cwblhau asesiad ôl-troed carbon yn derbyn un taliad o £250 am gymryd rhan yn ein hastudiaeth. Yn ogystal â hyn, bydd ffermwyr yn cael y budd o bennu strategaethau bridio cost-effeithiol a chynaliadwy, wedi’u targedu ar gyfer eu fferm.

Croesewir unrhyw ffermwyr sydd â diddordeb i gymryd rhan yn y gweithdai yn ddi-dal, hyd yn oed os na allant ymrwymo i ofynion data’r prosiect.  

Am fwy o wybodaeth:

https://meatpromotion.wales/en/newsroom/welsh-farmers-wanted-to-help-navigate-the-path-to-net-zero/