Ffenestr cyllid yn ailagor ar gyfer treialon ar y fferm yng Nghymru

Mae ffermwyr yn cael eu gwahodd i wneud cais am y rownd nesaf o Gyllid Arbrofi. Mae treialon blaenorol a ariannwyd gan Cyswllt Ffermio yn amrywio o dyfu maglys yn Aberhonddu i sefydlu blodau’r haul fel cnwd i gyd-fynd ag india-corn,

Mae'r ffenestr ymgeisio newydd ar gyfer y Cyllid Arbrofi yn agor ar 27 Ionawr 2025 ac mi fydd ar agor tan 17 Chwefror.

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael hyd at £5,000 i helpu i ariannu treialon ar y fferm sy'n arbrofi gyda syniadau newydd.

Yn ystod y rownd cyllid ddiwethaf, cefnogwyd ffermwyr ar gyfer nifer o brosiectau gan gynnwys rheoli plâu yn integredig ar fenter mefus casglu eich hun.

Y nod yw i ffermwyr gymharu gwahanol driniaethau neu systemau rheoli – nid ariannu offer newydd yw bwriad y prosiect.

Mae Cyswllt Ffermio wedi datblygu’r Cyllid Arbrofi i fynd i’r afael â phroblemau neu gyfleoedd lleol penodol, gyda’r nod o wella effeithlonrwydd a phroffidioldeb busnesau amaethyddol, gan  warchod yr amgylchedd ar yr un pryd.

Mae’r cyllid ar gael i unigolion neu grwpiau o hyd at bedwar ffermwr a/neu dyfwr yng Nghymru sydd wedi nodi problem neu gyfle lleol neu benodol.

Rhaid i brosiectau addas geisio gwella eu heffeithlonrwydd cynhyrchu a’u proffidioldeb, gan hefyd warchod yr amgylchedd drwy fynd ati i reoli tir yn gynaliadwy.

Mae canllaw ar gael ar wefan Cyswllt Ffermio i helpu ffermwyr i bennu eu prosiect a llenwi’r ffurflen gais.

Rhaid i ymgeiswyr fod wedi cofrestru gyda Cyswllt Ffermio a dylent allu cwblhau eu prosiectau erbyn Ionawr 2026.

Gellir defnyddio’r cyllid ar gyfer cymorth technegol, samplu, profi a threuliau rhesymol eraill megis rhai sy'n ymwneud â llogi offer neu gyfleusterau arbenigol yn y tymor byr sy'n ymwneud yn uniongyrchol â'r prosiect.

Bydd y canlyniadau’n cael eu rhannu â chynhyrchwyr eraill yng Nghymru drwy weithio gydag aelod ymroddedig o dîm Cyswllt Ffermio i gynhyrchu adroddiad byr a gweithgareddau trosglwyddo gwybodaeth eraill megis digwyddiadau.

Mae’r ffurflen gais ar gael ar wefan Cyswllt Ffermio, neu i gael y ddolen a gwybodaeth bellach cysylltwch â This email address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it. neu ewch i: https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/news-and-events/news/funding-window-re-open-farm-trials-wales