Mae Hybu Cig Cymru (HCC) wedi cyhoeddi’r fersiwn ddiweddaraf o’i lyfryn ar gyfer y diwydiant da byw, sef Y Llyfr Bach o Ffeithiau am Gig.
Mae’r Llyfr Bach o Ffeithiau am Gig, sef Casgliad o Ystadegau’r Diwydiant Cig Coch a Da Byw yng Nghymru 2024, yn llwyddo i gywasgu gwerth deuddeg mis o ddata ar 56 tudalen. Dylai fod ar frig rhestr ddarllen gweithwyr proffesiynol ym maes cynhyrchu cig coch, ac unigolion sy’n ymddiddori ym maes ffermio da byw.
Yn ôl y llyfryn, roedd 13,875 o ddaliadau defaid yng Nghymru yn 2023, mae hyn yn llai na’r 14,067 o ddaliadau yn 2022. Yn 2023, roedd gan bob daliad braidd cyfartalog o 627 o ddefaid, 665 oedd y ffigwr cyfatebol y flwyddyn flaenorol. Maint cyfartalog buches yng Nghymru yn 2023 oedd 23, ac roedd 6,595 o ddaliadau gwartheg eidion, o’i gymharu â 6,790 o ddaliadau yn 2022.
I weld Llyfr Bach o Ffeithiau am Gig 2024 ewch i:
https://meatpromotion.wales/wp-content/uploads/2024/12/LBMF-2024-Cym-compressed.pdf