Sioe Deithiol Cyswllt Ffermio i gynghori ffermwyr ar gynllunio olyniaeth a newidiadau arfaethedig i’r Dreth Etifeddiaeth.

Mae Cyswllt Ffermio yn lansio sioe deithiol o ddigwyddiadau ar draws Cymru i helpu busnesau ystyried gwahanol opsiynau ar gyfer gwarchod eu hasedau, gan gynnwys cynllunio olyniaeth.

Roedd Cyllideb yr Hydref ar 30 Hydref yn cynnwys newidiadau arfaethedig sylweddol i’r rheolau Treth Etifeddiaeth (HT) a bydd y rhain yn cael effaith ar nifer o fusnesau fferm.  

Mi fydd angen i deuluoedd ffermio yng Nghymru ystyried goblygiadau bwriad Llywodraeth y DU i gyfyngu’r 100% o ryddhad ar dreth etifeddiaeth i fusnesau amaeth sydd â gwerth llai nag £1m o asedau.

Rhagwelir y bydd y galw am y cyngor fydd ar gael drwy Cyswllt Ffermio yn uchel o ganlyniad, felly y bwriad yw cynnal 10 o ddigwyddiadau, lle bydd arbenigwyr ym maes Treth Etifeddiaeth ar ffermydd a chynllunio olyniaeth yn  darparu arweiniad pwysig ar y mesurau  a fwriedir, ac yn cynghori ffermwyr ar sut i liniaru effeithiau’r newid.

Bydd cyfreithwyr, cyfrifwyr a gwerthwyr tir wrth law i ateb cwestiynau.

Mae pecyn cymorth cynhwysfawr ar gael drwy Cyswllt Ffermio, gan gynnwys cyfarfodydd olyniaeth deuluol; adolygiad o olyniaeth i asesu’r sefyllfa dreth, a chyngor busnes a chyfreithiol cymorthdaledig.  Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â’r Swyddog Datblygu lleol, neu ffoniwch y Ganolfan Wasanaethau.

Mae amserlen gweddill digwyddiadau mis Chwefror fel a ganlyn:

05/02/25 – Gwesty Elephant & Castle, Y Drenewydd, SY16 2BQ

10/02/25 - Hafod a Hendre, Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, LD2 3SY

11/02/25 – Neuadd Rhyd-y-main, Dolgellau, Gwynedd, LL40 2AS

m fanylion pellach ewch i https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy/beth-sydd-ymlaen