UAC yn cymeradwyo argymhelliad y Comisiwn Cymunedau Cymraeg ar bolisi amaethyddol

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi cymeradwyo’n llwyr argymhelliad y Comisiwn Cymunedau Cymraeg ar bolisi amaethyddol yn ei adroddiad ‘Grymuso cymunedau, cryfhau’r Gymraeg’ a gyhoeddwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf.

Yn dilyn mewnbwn gan yr Undeb yn ystod  ei ddatblygiad, mae’r adroddiad yn argymell y ‘dylai Llywodraeth Cymru sicrhau fod y Gymraeg yn ystyriaeth ganolog mewn polisi amaethyddol. Dylid sicrhau cefnogaeth i’r fferm deuluol, a bod egwyddor pwysigrwydd y fferm deuluol yn cael ei hadlewyrchu mewn polisïau eraill megis polisi amgylcheddol.’

Gweledigaeth Undeb Amaethwyr Cymru yw sicrhau bod gennym ni gymuned o ffermydd teuluol ffyniannus a chynaliadwy yng Nghymru. Y teuluoedd amaethyddol hyn, sy’n byw a gweithio o fewn eu cymunedau, yw asgwrn cefn ardaloedd gwledig ac economi cefn gwlad Cymru.”

Mae sioeau amaethyddol sirol a sefydliadau cymdeithasol ac elusennau megis Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru ac adrannau ac aelwydydd yr Urdd wrth wraidd cynaliadwyedd y Gymraeg a threftadaeth a diwylliant Cymru.

Fel y disgrifia awduron yr adroddiad, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, mae 43.1% o weithlu’r diwydiannau amaeth, coedwigaeth a physgota’n siarad Cymraeg - y gyfran uchaf o siaradwyr Cymraeg o’r holl sectorau economaidd yng Nghymru.

Mae argymhelliad y Comisiwn yn cyd-fynd yn llwyr â chred a gweledigaeth UAC y dylai’r Gymraeg fod yn ystyriaeth ganolog yn natblygiad polisi amaethyddol ac amgylcheddol, ac yn rhan annatod o unrhyw daliad ‘gwerth cymdeithasol’ a ddaw drwy’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy arfaethedig.

Bydd unrhyw gynigion polisi yn y dyfodol sy’n niweidiol i fusnesau amaeth, cymunedau gwledig, neu i’r sector amaethyddiaeth yng Nghymru yn fygythiad uniongyrchol i’r diwydiant sy’n cynnwys y ganran uchaf o siaradwyr Cymraeg.