UAC yn croesawu sefydlu Bwrdd Rhaglen dileu TB Gwartheg

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi croesawu’r cyhoeddiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies, fod Bwrdd Rhaglen Dileu TB Gwartheg bellach wedi ei sefydlu.

Mae’r newyddion yn cwblhau’r strwythur llywodraethu newydd yn dilyn ffurfio’r Grŵp Cynghori Technegol ar TB mewn Gwartheg yn gynharach eleni.

Mae UAC yn croesawu’r newyddion bod y Bwrdd Rhaglen wedi’i sefydlu  yn dilyn ffurfio’r Grwp Cynghori Technegol yn gynharach eleni a bod llythyrau penodi wedi’u hanfon. 

Gyda chynrychiolaeth gref  o du ffermwyr a chyrff y diwydiant, gan gynnwys UAC, bydd y Bwrdd yn gweithio’n agos gyda’r Grŵp Cynghori Technegol ac yn rhoi cyngor strategol i Huw Irranca-Davies ar ddileu TB Gwartheg yng Nghymru.

Mae’r datganiad (12 Awst) yn nodi y bydd blaenoriaethau cynnar y Bwrdd yn cynnwys cytuno ar ei ‘ffyrdd o weithio’ a’i gylch gorchwyl, ac yn ystyried cyngor y Grŵp Cynghori Technegol mewn perthynas â’r adolygiad chwe blynedd o dargedau dileu TB yng Nghymru. Yn ogystal, bydd y Bwrdd yn ystyried sut i wella dulliau o gyfathrebu ac ymgysylltu â ffermwyr a milfeddygon.

Er bod UAC yn croesawu’r cyhoeddiad gan Huw Irranca-Davies, mae ceidwaid gwartheg yn parhau i gael eu llethu gan y clefyd hwn.

Yn 2022, dadansoddodd UAC fod cyfanswm y costau o brofi gwartheg am TB cyn eu symud yng Nghymru dros £2.3 miliwn. Cafodd  cymaint ag 11,197 o anifeiliaid eu difa yn y 12 mis hyd at Mawrth 2024.

Mae Cymru’n parhau i weld diffyg eglurder ac arweiniad i ymdrin â’r clefyd hwn mewn bywyd gwyllt.  Mae tystiolaeth o’r 52 ardal difa moch daear cyntaf yn Lloegr yn dangos bod yr achosion o TB Gwartheg wedi gostwng 56% ar gyfartaledd ar ôl pedair blynedd o ddifa. Mae ffermwyr, fel llysgenhadon cefn gwlad, hefyd am weld poblogaeth o fywyd gwyllt iach a llewyrchus yma yng Nghymru.

Mae teuluoedd ffermio sydd wedi’u taro gan TB Gwartheg ar y fferm wedi’u heffeithio’n emosiynol gan y clefyd. Mae nifer o aelodau UAC wedi siarad yn gyhoeddus am eu trallod dros y misoedd diwethaf, i godi ymwybyddiaeth o effeithiau  torcalonus y clefyd ar eu teuluoedd, eu busnesau a’u da byw.

Fel Undeb, mae UAC yn awyddus i chwarae ei rhan a gweithio’n agos gyda Bwrdd y Rhaglen Dileu a’r Grŵp Cynghori Technegol i adolygu’r materion pwysig sy’n berthnasol i ddileu TB Gwartheg. Mae’r rhain yn cynnwys meysydd megis priodoldeb y trefniadau profi presennol a dulliau o fynd i’r afael â lledaeniad y clefyd gan fywyd gwyllt.