Croesawu’r bwriad i dalu am gynnal a chadw SoDdGA drwy’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy

Yn dilyn trydydd cyfarfod o’r Bwrdd Crwn Gweinidogol a gynhaliwyd (23 Gorffennaf) yn Sioe Frenhinol Cymru, mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau’r bwriad i dalu am gynnal a chadw Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) fel rhan o’r taliad sylfaenol cyffredinol drwy’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS).

Mewn ymateb cynhwysfawr i’r ymgynghoriad SFS yn gynharach eleni, pwysleisiodd UAC fod rhai ffermydd wedi eu categoreiddio fel SoDdGA bron yn gyfan gwbl, a byddent felly o dan anfantais ddifrifol o’u cymharu â chynhyrchwyr eraill ledled Cymru pe na allant gael mynediad at daliadau cynnal a chadw.

Byddai’r cynigion cychwynnol wedi arwain at effaith cwbl groes, sef cosbi ffermwyr sy’n ffermio tir sydd wedi’i gategoreiddio fel y mwyaf gwerthfawr yng Nghymru.

Er bod rhai cwestiynau sylfaenol yn parhau ynghylch y broses daliadau a’r gallu o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru i gyhoeddi cytundebau rheoli ar gyfer safleoedd SoDdGA, rydym yn croesawu’r ymdrechion a wnaed gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â sut y gall yr SFS weithio ochr yn ochr â gofynion rheoliadol y Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad. 

Mae’r Undeb wedi ymrwymo i waith y tri grŵp yn Llywodraeth Cymru o ran gweithio drwy elfennau o’r cynllun yn eu tro, ac mae’n sicr yn gweld hyn fel cam pwysig ymlaen.