Mae ymchwil gan UAC i ddiogelwch cyflenwad bwyd Cymru yn dangos bod dibyniaeth y DU ar fwyd o wledydd eraill wedi dyblu bron ers canol yr 1980au.
Mae 40 y cant o fwyd y DU yn cael ei fewnforio bellach, o’i gymharu â thua 22 y cant yng nghanol y 1980au. Mae’n destun pryder bod tua 20 y cant yn dod yn uniongyrchol o wledydd sy’n cael eu heffeithio fwyaf gan y newid yn yr hinsawdd.
Dyna gefndir seminar Undeb Amaethwyr Cymru ar Faes y Sioe Frenhinol
ar Ddydd Mawrth 23 Gorffennaf. Gofynnodd UAC i banel o arbenigwyr polisi, sydd hefyd yn ffermio, i drafod beth yw rôl ffermwyr Cymru mewn perthynas â diogelu cyflenwad bwyd y wlad.
A ddylem ni ganolbwyntio ar fwydo ein cymunedau lleol? A oes cyfrifoldeb byd-eang arnom i sicrhau cyflenwad bwyd, o gofio sefyllfa’r hinsawdd a’r sefyllfa wleidyddol ledled y byd? Neu a ddylem fod yn opsiwn ansawdd uchel ac amgylcheddol gynaliadwy ar gyfer defnyddwyr?
Yn ymuno â chadeirydd y panel sef Dai Miles, Dirprwy Lywydd yr Undeb yr oedd Holly Tomlinson, Cynghrair Gweithwyr y Tir; Pennaeth Cynaliadwyedd a Pholisi’r Dyfodol Hybu Cig Cymru, Rachael Madeley-Davies, a chyn uwch-brynwr da byw i Dunbia, aelod o fwrdd HCC ac un o Ffermwyr Gyfarwyddwyr presennol UAC, Wyn Williams.
Roedd trafodaeth y panel yn gyfle i dynnu sylw at faterion fel dibyniaeth y DU ar fewnforion ‘bwyd cynhenid’ y gallwn ni ein hunain ei gynhyrchu fel cig eidion, cig oen a chynnyrch llaeth. Mae’r mewnforion hyn wedi cynyddu pum gwaith yn ystod y blynyddoedd diwethaf, o 5 y cant i 25 y cant. O ystyried effaith milltiroedd bwyd ar yr amgylchedd, mae hyn yn gwbl eironig ac yn ffolineb llwyr.
Yn ogystal, mae’r Uned Gwybodaeth Ynni a Hinsawdd yn adrodd bod “ystadegau masnach y DU yn dangos bod 16% o’n mewnforion bwyd, gwerth £7.9 biliwn, wedi dod yn uniongyrchol o wledydd sydd â lefel isel o barodrwydd i ddelio â heriau newid hinsawdd, h.y. rhai sydd nid yn unig yn agored i effeithiau’r newid hinsawdd, ond sydd hefyd ȃ diffyg gallu a pharodrwydd i addasu ac ymateb i’r newid hwnnw.”
Gwyddom eisoes fod llywodraeth ddiwethaf San Steffan wedi gwneud cam ȃ ni wrth i’r DU adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae angen agwedd llawer cadarnach tuag at flociau masnachu a chytundebau masnach yn y dyfodol os ydym ni am warchod lefelau cynhyrchu bwyd cefn gwlad Cymru, yr economi, a chyflenwad bwyd y DU. Mae’r cytundebau masnach hyn hefyd yn bygwth ein gallu i gyrraedd targedau hinsawdd a bioamrywiaeth allweddol drwy danseilio cynhyrchwyr Cymreig.
Rhaid i fewnforion ac allforion bwyd wynebu’r un tollau a chadw at safonau tebyg os ydym ni am sicrhau chwarae teg i gynhyrchwyr y DU a’r UE. Fel arall, mae’r DU mewn perygl o colli ei gallu i reoli ei hôl troed carbon, a gall hyn hefyd fod yn fygythiad i’w gallu i gynnal ei hun.
Mae ymchwil gan UAC yn dangos bod gwastraff bwyd yn parhau i fod yn broblem gynyddol i gymdeithas. Pe bai'n wlad, gwastraff bwyd fyddai'r trydydd allyrrydd uchaf o nwyon tŷ gwydr yn y byd. Gyda 309 miliwn o bobl yn wynebu newyn difrifol mewn 72 o wledydd, mae’n rhaid i gynhyrchu a diogelu’n cyflenwad bwyd fod ar frig agenda arweinwyr y byd.