Crynodeb o Newyddion Awst 2024

UAC yn cydnabod milfeddyg a safodd ysgwydd yn ysgwydd gyda ffermwyr yn ystod protestiadau

Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi cydnabod Rhys Beynon-Thomas am ei wasanaethau i amaethyddiaeth yn Sioe Frenhinol Cymru.

Mae Rhys Beynon-Thomas yn filfeddyg profiadol a ddychwelodd i Gymru yn 2014 i weithio fel milfeddyg yn arbenigo mewn anifeiliaid fferm yn Sir Gaerfyrddin, ochr yn ochr â ffermio’n rhan amser ar fferm y teulu yn yr Hendy, Abertawe. Mae bellach yn gyfarwyddwr gyda Milfeddygon Prostock.

Mae Rhys wedi bod yn eiriolwr ac yn llais i ffermwyr yn ystod un o’r cyfnodau mwyaf gofidus i’r sector.

Yn ei areithiau teimladwy ond hynod o effeithiol yn y protestiadau “Digon yw Digon” yng Nghaerfyrddin a Chaerdydd llwyddodd i gyfleu effeithiau erchyll TB ar deuluoedd fferm. Roedd ei sylwadau’n ddirdynnol, a’i ddewrder yn siarad o bersbectif milfeddyg yn ysbrydoledig.




Yr Almaen yn cyhoeddi pecyn cymorth i ffermwyr

Yn dilyn protestiadau gan ffermwyr ar ddiwedd y llynedd mae Llywodraeth yr Almaen wedi cyhoeddi y bydd yn cyflwyno nifer o fesurau i gryfhau natur gystadleuol amaethyddiaeth yr Almaen.

Bydd y rhain yn cynnwys ail-gyflwyno mesurau rhyddhad treth incwm megis llyfnhau incwm, sy’n caniatáu gostyngiadau treth yn ystod blynyddoedd sy’n wan yn economaidd, i’w gosod yn erbyn blynyddoedd cryfach.  Mae’n bosib y bydd hyn yn cael ei ôl-weithredu o 2023 i 2026.

Yn ogystal, mae’r pecyn yn anelu at ymateb i alwadau ledled Ewrop i leihau biwrocratiaeth i ffermwyr.

Mae Undebau Ffermwyr wedi ymateb gyda siom i’r pecyn gan ddweud ‘nid pecyn cymorth mohono ond bwndel bach sydd bellter maith i ffwrdd o’r hyn sydd ei angen’.



Pryderon y gallai cwymp mewn niferoedd ansefydlogi’r diwydiant cig eidion

Mae Hybu Cig Cymru wedi mynegi pryderon am ddyfodol y diwydiant cig eidion yng Nghymru yn sgil y data hanner blwyddyn diweddaraf a gyhoeddwyd gan Wasanaeth Symud Gwartheg Prydain.

Wrth i nifer y gwartheg o oedran allweddol ostwng, mae pryderon difrifol ynghylch y màs critigol sydd ei angen i hybu a chynnal sefydlogrwydd y diwydiant, ac mae’r rhagolygon cyffredinol yn peri pryder o ran cynhyrchu cig eidion.

Cofrestrwyd genedigaethau 213,200 o loi yng Nghymru yn ystod y cyfnod o chwe mis, sy’n is o lawer na’r niferoedd brig yn 2021, sef 230,000. Disgwylir i’r cyflenwad tymor byr o wartheg ar draws Prydain aros yn gymharol sefydlog, ond o edrych i’r dyfodol, mae nifer y gwartheg yn yr oedran 0-12 mis i lawr bedwar y cant, sy’n awgrymu y gall fod yna gyfyngiadau ar y cyflenwad cig eidion ar draws Prydain yn y dyfodol.