Mae prosiect peilot newydd sy’n anelu at helpu cynhyrchwyr cig eidion i arbed arian wrthi’n chwilio am ffermwyr addas o Wynedd ac Ynys Môn i gymryd rhan.
Bydd y prosiect - Datgarboneiddio Cig Eidion Cymru PGI - yn ystyried effaith pesgi gwartheg o fewn cyfnod magu byrrach ar elw economaidd busnes, yn ogystal â’i effaith bositif ar yr allyriadau nwyon tŷ gwydr a gynhyrchir.
Mae Hybu Cig Cymru (HCC) yn arwain y gwaith hwn ac mae wrthi ar hyn o bryd yn recriwtio cyfanswm o 50 o ffermwyr i gymryd rhan. Rhaid bod y ffermydd wedi’u lleoli o fewn Ceredigion a Sir Gaerfyrddin fel yr hysbysebwyd yn wreiddiol, gyda’r cyfle wedi’i ehangu bellach i gynnwys busnesau cig eidion yng Ngwynedd ac Ynys Môn hefyd.
Mae’r manteision i’r rhai sy’n cymryd rhan yn cynnwys archwiliadau carbon am ddim a dadansoddiad ariannol am ddim, a allai gynyddu elw busnesau fferm. Hefyd, byddant yn cael y cyfle i ennill gwobr arbennig, sef arhosiad un noson gyda brecwast a swper mewn cyrchfan gwyliau 5 seren yng Nghymru.
Er mwyn cydymffurfio â’r amodau ariannu, a ddarperir gan Gronfa Her ARFOR, rhaid i’r cyfranogwyr fod yn siaradwyr Cymraeg. Nod Cronfa Her ARFOR yw cryfhau’r berthynas rhwng yr economi â’r Gymraeg yng ngogledd a gorllewin Cymru drwy ddyfarnu grantiau ar gyfer atebion arloesol i heriau cymunedol.