Canllaw Cyngor Mynydda Prydain ar gyfer perchnogion tir

Mae llawer o berchnogion a deiliaid tir yn hapus i ganiatáu mynediad ar gyfer dringo creigiau, ond mae eraill yn gyndyn oherwydd pryderon a chamddealltwriaeth ynghylch atebolrwydd cyfreithiol.

I fynd i’r afael â’r pryderon hyn mae Cyngor Mynydda Prydain (BMC) wedi cyhoeddi taflen ar gyfer perchnogion a deiliaid tir lle ceir clogwyni, creigiau, chwareli neu gerrig brig sy’n addas ar gyfer dringo creigiau.

Mae’r canllaw’n berthnasol yng Nghymru a Lloegr ac mae’n esbonio’r ddeddfwriaeth bresennol sy’n effeithio ar ymrwymiadau perchnogion a deiliaid tir, a’r risgiau go iawn sy’n gysylltiedig â dringo creigiau, i helpu i fynd i’r afael â’r pryderon hyn.

Am fwy o wybodaeth ac i lawr lwytho’r daflen ewch i:

https://services.thebmc.co.uk/why-rock-climbers-arent-a-liability