Byddwch yn wyliadwrus yn sgil cadarnhau’r achosion cyntaf o’r feirws Tafod Glas yng Nghymru

Dylai pob ffarmwr fod yn wyliadwrus ac yn ofalus wrth brynu a gwerthu da byw, wrth i’r achos cyntaf o’r feirws Tafod Glas (BTV-3) gael ei gadarnhau yng Nghymru.

Cadarnhawyd yr achos cyntaf o BTV-3 Ddydd Gwener, 27 Medi 2024 ar ôl i brofion gwyliadwriaeth ganfod y feirws mewn tair dafad a oedd wedi symud i Wynedd o ddwyrain Lloegr.  Cadarnhawyd achos arall hefyd, gan olygu bod cyfanswm o ddau achos yng Nghymru bellach.  Mae’r ddau achos wedi’u cadarnhau fel achosion yn sgil symud o ardal risg uchel.

Cafwyd cyfanswm o 145 o achosion hyd yn hyn yn y DU, gyda 143 yn Lloegr a 2 yng Nghymru.

Mae trwydded gyffredinol ar gael bellach ar gyfer y brechlyn tafod glas seroteip 3 (BTV-3) ar draws Lloegr gyfan.  Gall pob ceidwad da byw yn Lloegr ddefnyddio unrhyw un o’r brechlynnau BTV-3 a ganiateir heb wneud cais am drwydded benodol.

Nid yw Cymru, na chwaith yr Alban a Gogledd Iwerddon, wedi trwyddedu’r defnydd o frechlynnau BTV-3 eto, ond maent wrthi’n arolygu ei ddefnydd.

Mae’r brechlynnau BTV-3 yn lleihau yn hytrach nag atal y feirws BTV yn y gwaed.  Am y rheswm hwn, mae’r holl reoliadau o ran symud anifeiliaid a’r cyfyngiadau masnachu yn berthnasol o hyd ar gyfer anifeiliaid sydd wedi’u brechu.

Ar hyn o bryd, mae Parth Cyfyngedig BTV-3 wedi’i sefydlu dros ran helaeth o ochr ddwyreiniol Lloegr, am fod BTV yn prysur ledaenu ar hyn o bryd yn y boblogaeth gwybed.

Mae’r sefyllfa bryderus hon yn tanlinellu’r angen i bob ffarmwr fod yn ymwybodol o beryglon prynu da byw o ardaloedd sydd â risg Tafod Glas, yn enwedig am fod y tymor ar gyfer prynu a gwerthu stoc bridio yn ei anterth.

Rhaid ichi gymryd rhagofalon os ydych chi’n bwriadu prynu da byw o ardaloedd sy’n ffinio â’r Parth Cyfyngedig yn nwyrain Lloegr, yn sgil gweithgaredd y pryfed bach sy’n cario BTV-3.

Yn gyfreithiol, mae BTV yn glefyd y mae angen rhoi gwybod i swyddogion y llywodraeth amdano drwy gyfrwng milfeddygfeydd.  Mae’n effeithio ar anifeiliaid cnoi cil megis defaid a gwartheg ac mae’n cael ei ledaenu gan bryfed sy’n cnoi, sy’n cario’r feirws o un anifail i’r llall.  Mae BTV yn achosi twymyn, croen caled ac wlserau o amgylch y trwyn a’r ceg, pen chwyddedig a chloffni, ac mewn achosion difrifol mae’n achosi erthyliadau a marwolaeth.  Fodd bynnag, nid yw’r holl arwyddion hyn bob amser yn bresennol.

Mae’n bwysig nodi nad yw’r feirws Tafod Glas yn effeithio ar bobl nac ar ddiogelwch cig a chynnyrch llaeth.

Am y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf am y Tafod Glas ewch i:

https://www.gov.uk/government/collections/bluetongue-information-and-guidance-for-livestock-keepers