Prosiect adar ysglyfaethus Cymru’n chwilio am wirfoddolwyr

Mae’r BTO (British Trust for Ornithology) yn lansio Cudyll Cymru, prosiect gwyddoniaeth dinasyddion newydd sbon sy’n anelu at wella dealltwriaeth o adar ysglyfaethus ledled Cymru.

Mae’r BTO yn chwilio am wirfoddolwyr ar draws Cymru i helpu i ganfod ac arsylwi ar adar ysglyfaethus, yn enwedig o fewn Ardaloedd Gwarchodedig y wlad. 

Bydd y prosiect unigryw hwn, a elwir yn ‘Cudyll Cymru’ (rhan o fenter monitro adar ysglyfaethus Cymru) yn adeiladu rhwydwaith o wirfoddolwyr ymroddgar, i fonitro iechyd a chynefinoedd pedair rhywogaeth gyffredin o adar ysglyfaethus, sef:  Bwncath, Cudyll Coch, Barcud a Gwalch Glas, yn ogystal ag un o deulu’r brain, sef Cigfran.

Mae adar ysglyfaethus yn hanfodol i iechyd ein hecosystemau, ac maent yn rheibwyr o fri.  Mae eu sensitifrwydd i newidiadau megis argaeledd ysglyfaeth, amodau cynefin a’r hinsawdd yn golygu eu bod yn rhan ganolog o waith ymchwilwyr sydd wrthi’n nodi ac yn monitro newidiadau amgylcheddol.

Mae’r pum rhywogaeth a ddewiswyd ar gyfer yr astudiaeth yn gyffredin ar draws Cymru, ac yn gymharol gyfarwydd i’r rhan fwyaf o’r trigolion:

Bwncath

Aderyn ysglyfaethus mawr sydd i’w weld mewn nifer o gynefinoedd gwahanol.  Mae ei hoff fwyd yn cynnwys cwningod ac anifeiliaid ac adar bach eraill, celanedd, pryfaid a mwydod.

Cudyll Coch

Mae’r gweilch maint colomen hyn yn aml i’w gweld yn hofran uwchben caeau ac ymyl ffyrdd, yn chwilio am lygod a mamaliaid bach eraill.

Barcud

Mae’r aderyn urddasol hwn, oedd bron â diflannu ar un adeg, i’w weld bellach mewn sawl ardal o Gymru yn dilyn ymdrechion cadwraeth penodol llwyddiannus.  Mae’r Barcud, sy’n ysglyfaethwr yn y bôn, yn bwyta celanedd yn bennaf, yn ogystal ag adar ac anifeiliaid bach eraill.

Gwalch Glas

Aderyn ysglyfaethus arall maint colomen, mae’r gwalch trawiadol hwn yn bwydo ar adar eraill bron yn gyfan gwbl.   Wedi’i gyfyngu i goetiroedd yn bennaf, mi fydd y gwalch glas hefyd yn ymweld yn rheolaidd â gerddi a pharciau.

Cigfran

Yr aelod mwyaf o deulu’r brain, nid yw’r Gigfran yn aderyn ysglyfaethus mewn gwirionedd, ond mae’n rhannu llawer o nodweddion adar ysglyfaethus.  Mae’r aderyn nodedig hwn yn bwyta amrywiaeth eang o fwydydd, o aeron i gelanedd, yn ogystal ag adar ac anifeiliaid bach.  

Bydd yr astudiaeth yn casglu data i asesu tueddiadau o ran poblogaeth adar ysglyfaethus a chigfrain a’u llwyddiant i fridio, gyda ffocws arbennig ar rwydwaith Ardaloedd Gwarchodedig yng Nghymru, gan gynnwys Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) ac Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGA).

Bydd yr wybodaeth hon yn hanfodol i gefnogi strategaethau cadwraeth ac fel sail i ymrwymiadau’r llywodraeth i warchod bywyd gwyllt.

Sut i Gymryd Rhan

Mae’r BTO yn chwilio am wirfoddolwyr gyda gwahanol lefelau o brofiad i ymuno â Cudyll Cymru.  Does ond angen ichi nodi o leiaf un o’r rhywogaethau allweddol a chyfri’r adar, nythod neu diriogaethau o fewn yr ‘ardal’ a ddewiswyd gennych.  Darperir hyfforddiant drwy fideos adnabod adar, canllawiau ysgrifenedig, a mentora un i un.  Mae cyfranogiad hyblyg yn golygu bod modd ichi gyfrannu cyn lleied â dwy awr y mis, gan ganiatáu iddo ffitio’n hwylus i’ch trefn arferol.

Mae’r arolygon craidd yn rhedeg o fis Mawrth hyd at fis Awst, gyda’r data’n cael ei gyflwyno drwy gyfrwng porth ar-lein hawdd ei ddefnyddio.   Bydd gwirfoddolwyr yn derbyn cefnogaeth lawn, gan sicrhau profiad didrafferth a boddhaol.

Bydd Cudyll Cymru’n lansio’n swyddogol yn Ionawr 2025, ond gallwch gofrestru eich diddordeb nawr er mwyn bod ymhlith y cyntaf i ddechrau monitro.

Am fwy o wybodaeth ac i gofrestru, ewch i wefan y prosiect ar: