Mae troseddau gwledig yn effeithio nid yn unig ar yr unigolion a’r busnesau a dargedir yn uniongyrchol, ond gallant hefyd gael effaith economaidd, cymdeithasol ac emosiynol ar y gymuned wledig gyfan.
Mae troseddau gwledig yn cynnwys amrywiaeth eang o droseddau, gan gynnwys lladrata, fandaliaeth, dympio gwastraff anghyfreithlon, troseddau bywyd gwyllt ac ymddygiad anghymdeithasol, ymhlith eraill.
Gallwch wneud sawl peth i amddiffyn eich eiddo, tir a da byw. Os nad ydych chi’n siŵr ble i ddechrau, gall Tîm Troseddau Gwledig Heddlu Dyfed Powys eich helpu.
Anogir ffermwyr i gofnodi gwneuthuriad a rhif cyfresol eitemau, creu stocrestr gyfredol o’u heiddo, a thynnu lluniau o bob eitem. Dylai eitemau y gellir eu symud yn hawdd gael eu marcio neu’u stampio â chod post, enw’r fferm neu farc adnabod arall.
Dylai offer a pheiriannau bach gael eu cloi mewn adeilad diogel, ac ni ddylid parcio tractorau, offer fferm a pheiriannau gwerthfawr gerllaw, neu ar hyd ymyl ffyrdd cyhoeddus pan fyddant yn segur.
Dylid cloi gatiau fferm gyda tsaeniau neu gloeon o ansawdd da, a cholfachau gwrthdro neu rai wedi’u capio sydd orau, fel na ellir eu tynnu’n hawdd.
Anogir ffermwyr yn daer i osod dyfeisiau tracio ar feiciau cwad, cerbydau ATV a cherbydau fferm eraill oherwydd profwyd, dro ar ôl tro, mai dyna’r ffordd fwyaf effeithlon o adfer eiddo coll.
Mae holl swyddogion y tîm yn Ymgynghorwyr Tactegol Atal Trosedd cymwysedig
I drefnu ymweliad atal trosedd gan y swyddogion, ebostiwch: