Gwyliadwriaeth Ymwrthedd Gwrthficrobaidd a Gwerthiant Milfeddygol 2023

Mae dau adroddiad wedi’u cyhoeddi, un gan Y Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol (VMD) a’r llall gan y Gynghrair Defnydd Cyfrifol o Feddyginiaethau Mewn Amaethyddiaeth (RUMA), sy’n datgelu pa gynnydd a wnaed yn  y DU mewn perthynas ag ymwrthedd gwrthficrobaidd a gwerthiant gwrthfiotigau.

Mae Adroddiad Ymwrthedd Gwrthficrobaidd a Gwerthiant Milfeddygol (VARSS) y VMD o’r crynodeb yn ymdrin â gwerthiant gwrthfiotigau ar gyfer anifeiliaid sy’n cynhyrchu bwyd, yn ogystal â rhaglen monitro ymwrthedd gwrthficrobaidd mewn moch a dofednod.

Mae adroddiad  2023 yn dangos nad oes fawr ddim newid yn  lefelau gwerthiant y DU o wrthfiotigau ar gyfer anifeiliaid sy’n cynhyrchu bwyd ers y flwyddyn flaenorol, gyda’r gostyngiad yn parhau i fod yn 59% ers 2014.

Mae’r adroddiad llawn a’r canfyddiadau i’w gweld yma:

https://www.gov.uk/government/publications/veterinary-antimicrobial-resistance-and-sales-surveillance-2023