Cynllun Cynefin Cymru 2025

Cynigir Cynllun Cynefin Cymru yn 2025.  Gall pob busnes ffermio cymwys gyflwyno cais.

Os ydych chi’n bwriadu gwneud cais am y cynllun mae’n bwysig bod yr holl ardaloedd cynefin ar eich tir wedi’u cadarnhau drwy lenwi ffurflen Cadarnhau Data SFS 2024 ar RPW Ar-lein erbyn y dyddiad cau, sef 6 Rhagfyr 2024.

Dyma’r unig gyfle i gadarnhau'r ardaloedd cynefin ar eich fferm cyn i’r cynllun agor.

Mae Llywodraeth Cymru’n dweud nad yw cadarnhau cynefin yn ymrwymiad i reoli’r tir hwnnw yn 2025, a gall busnesau unigol benderfynu a ydyn nhw am reoli a hawlio am yr ardaloedd cynefin yn unol â’r gofynion cyhoeddedig ar gyfer categorïau cynefin.