Taliadau BPS 2024 a Throsglwyddo Hawliau 2025

Bydd gweddill taliadau Cynllun y Taliad Sylfaenol (BPS) a thaliadau llawn ar gyfer y rhai sydd heb gael taliad ymlaen llaw yn dechrau ar 12 Rhagfyr 2024.  Bydd y taliadau’n amodol ar broses ddilysu lawn.

Mae taliadau ymlaen llaw gwerth hyd at 70% o werth yr hawliad BPS terfynol a ragwelir ar gyfer 2024 wedi’u talu lle’r oedd modd cadarnhau’r cymhwysedd i hawlio, a’r holl ddogfennau ategol wedi’u derbyn mewn pryd i wneud y taliadau.

Agorodd ffenestr trosglwyddo hawliau BPS 2025 ar 2 Medi 2024.  Mae ffurflenni Trosglwyddo Hawliau ar gael ar gyfrifon RPW Ar-lein ac mae angen cyflwyno’r ffurflenni trosglwyddo erbyn canol nos ar 15 Mai 2025 er mwyn i’r hawliau fod ar gael ar gyfer BPS 2025.