Mae cwrs newydd wedi’i sefydlu sef ‘Cwrs Perchnogaeth Gyfrifol ar Gŵn’ (RDOC), sy’n gwrs ar-lein i addysgu perchnogion cŵn ar sut i leihau achosion o ymosodiadau gan gŵn ar dda byw. Mae wedi ei groesawu gan Ysgrifennydd y Cabinet, ac mae ar gael erbyn hyn i heddluoedd ledled Cymru ar gyfer perchnogion cŵn sydd wedi ymosod ar dda byw.
O fis Medi, bydd elusen anifeiliaid y Groes Las yn cyflwyno modiwl rheoli ymddygiad cŵn o amgylch da byw at gwrs presennol yr elusen ar fod yn berchennog cyfrifol ar gi, mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru a’r heddlu. Nod y cwrs yw cael effaith bositif ar iechyd, lles a disgyblaeth o gŵn. Hefyd, i addysgu perchnogion cŵn, yn y gobaith o leihau achosion o aildroseddu, a chreu cymunedau mwy diogel. Mewn rhai amgylchiadau, bydd hyn yn caniatáu i swyddogion yng Nghymru i ddefnyddio’r cwrs ar-lein addysgiadol fel rhan o Ddatrysiad Cymunedol neu gais ar ffeil yn ystod datrysiad llys yn dilyn ymosodiad ar dda byw.
Mae ymosodiadau gan gŵn yn bryder mawr o fewn cymunedau cefn gwlad Cymru. Mae’r digwyddiadau yn peri gofid mawr i ffermwyr a’u teuluoedd, nid yn unig yn ariannol ond yn emosiynol hefyd. Meddai Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig Huw-Irranca Davies: “rydym am sicrhau ffermwyr ein bod yn cymryd y broblem hon o ddifrif … ac rydym am i bobl fod yn gyfrifol am ymddygiad eu hanifeiliaid anwes os ydyn nhw’n byw neu’n cerdded yn ymyl tir ffermio ”.
Dywedodd Rob Taylor, Cydgysylltydd Troseddau Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt fod hyn “yn hanfodol er mwyn mynd ati i leihau nifer y troseddau”. Fodd bynnag, ar hyn o bryd, nid yw’r cwrs yn ddeddfwriaeth nac yn orfodol. Mae treialu’r cwrs newydd hwn hefyd yn rhan o’r ymdrech i newid y gyfraith o ran y Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir), a roddwyd o’r neilltu ym Mai 2023 oherwydd yr etholiad cyffredinol, ochr yn ochr â’r prosiect ymchwil pecyn profi DNA cŵn. Gobeithir y bydd y gyfraith newydd yn cael ei rhoi drwy’r senedd ac yn atgyfnerthu’r ddeddfwriaeth ar boeni da byw, drwy roi mwy o bwerau i’r heddlu a sicrhau cyfiawnder i ffermwyr da byw a effeithir.