Pam y gall ymchwilio i’r holl erthyliadau a marw-enedigaethau warchod buches y dyfodol

I helpu i sicrhau bod ffermwyr yn rhoi gwybod am bob erthyliad fel rhan o’u trefn loia, mae’r grŵp Iechyd a Lles Anifeiliaid Cnoi Cil  (RH&W) wedi lansio taflen a hwb ar-lein yn cynnwys Cwestiynau a Ofynnir yn Aml, i helpu i leihau’r rhwystrau rhag rhoi gwybod am erthyliadau a chyflwyno samplau erthylu i’w harchwilio.

Gyda lloia mewn bloc yn yr hydref ar fin dechrau, mae arbenigwyr yn annog ffermwyr i roi gwybod, ac archwilio i bob erthyliad a llo marw-anedig er mwyn deall statws clefydau a chanfod sut i warchod eu buchesi yn y dyfodol.

Mae’r wybodaeth ar gyfer adnoddau’r grŵp wedi’i chreu mewn ymgynghoriad â chorff cydweithredol o arbenigwyr o’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA), Coleg Gwledig yr Alban (SRUC) ac Iechyd Anifeiliaid Gogledd Iwerddon (AHNI).

Y bwriad gyda’r daflen yw ei bod yn cael ei hargraffu ar gyfer hysbysfyrddau ffermydd, yn ogystal â’i safio ar ffonau symudol holl aelodau tîm y fferm. i helpu i gynyddu nifer yr erthyliadau a adroddir.

Yn berthnasol ar hyn o bryd y mae’r math presennol o Glefyd y Tafod Glas, sef BTV-3, yn ogystal â chlefyd Schmallenberg, ill dau yn gallu achosi erthylu hwyr, lloi marw-anedig neu loi wedi’u hanffurfio, felly mae ‘na reswm dilys o ran clefydau hysbysadwy dros yr angen i ymchwilio i bob erthyliad.

O safbwynt gweithiwr, ffermwr neu filfeddyg, mae gwybod ychydig mwy am y risgiau ar y fferm, a gallu rheoli’r risg hwnnw ar gyfer unrhyw un sy’n dod i gysylltiad â’r fuches yn gam positif y gall ffermwyr ei gymryd.

Am fwy o wybodaeth lawr lwythwch y daflen: https://ruminanthw.org.uk/reporting-all-cattle-abortions-and-stillbirths/